ABERTAWE

Sgwad `Sgwennu Abertawe

Sefydlwyd Sgwad `Sgwennu Cymraeg yn Abertawe fis Mawrth 2010 a daethant at eu gilydd yng Nghanolfan Dylan Thomas i weithio gyda’r Prifardd Tudur Dylan Jones. Disgyblion o Ysgol Gyfun Gwyr yw craidd y Sgwad ar hyn o bryd, ond gobeithir dennu aelodau o Ysgol Bryntawe ac Ystalyfera maes o law. 

Sefydlwyd Sgwad `Sgwennu Saesneg newydd yn Abertawe yn 2009, ac fe’i rhedir gan David Woolley, Cyfarwyddwr Celfyddydol Canolfan Dylan Thomas, Abertawe mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Abertawe: david.woolley@swansea.gov.uk

Gweithgarwch Diweddar:

Medi 2009: Cymryd rhan yn y digwyddiad Sgwads yn y Senedd, gyda'r llenorion Ceri Wyn Jones, Robert Minhinnick a'r Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke (Sgwad Saesneg).

Hydref 2009: Gweithiodd Sgwad `Sgwennu Saesneg Abertawe gyda Phil Bowen.

Mawrth 2010: Gweithdy cyntaf Sgwad `Sgwennu Cymraeg Abertawe gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones.