BETH YW SGWAD?
Tros y ddegawd a fu, mae Llenyddiaeth Cymru wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru. Nod y Sgwadiau yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth – boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid ysgrifennu creadigol Cymru. Fel rheol, gofynnir i brifathrawon yr awdurdod lleol i enwebu plant 9 i 10 oed sy’n dangos addewid yn eu gwaith creadigol, yna bydd ymgynghorwyr addysg yn gwneud y dewisiadau terfynol. Wedi dewis y Sgwad, bydd y plant yn cwrdd oddeutu dair neu bedair gwaith y flwyddyn, fel rheol ar ddydd Sadwrn, ac yn derbyn sesiynau hyfforddi gan lenorion sydd â’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i weithio gyda’r ifainc. Gobeithir wedyn cadw’r Sgwad hwnnw gyda’i gilydd hyd ddiwedd eu dyddiau ysgol.
Sefydlwyd y Sgwad cyntaf yn hen sir Gwent yn 1996, ac fe’i dilynwyd wedi hynny gan Sgwadiau ar hyd a lled y wlad. Bu Claire Watkins a Stafford Sherlok o awdurdod lleol Gwent (gynt) yn frwdfrydig iawn wrth gynllunio’r Sgwad cyntaf gyda Swyddog Prosiectau’r Academi, Bob Mole. Gillian Clarke fu’n arwain y sesiwn gyntaf, ac fe’i dilynwyd gan Robert Minhinnick. Wedi ail-strwythuro llywodraethau lleol ym 1996, sefydlwyd Sgwadiau `Sgwennu yn y siroedd newydd – Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent. Bellach sefydlwyd Sgwad `Sgwennu bron ymhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’r Sgwadiau wedi tyfu i fod yn ran amlwg o sîn lenyddol Cymru, ac fe’u gwelir yn cymryd rhan mewn amryfal ddigwyddiadau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol neu Ŵyl y Gelli. Bellach mae gan gorff o diwtoriaid brofiad o weithio gyda’r plant talentog hyn, gan gynnwys Iwan Llwyd, Ceri Wyn Jones, Mererid Hopwood, Gillian Clarke, Francesca Kay, Robert Minhinnick a Jenny Sullivan. Mae’r cyn Fardd Llawryfog, Andrew Motion, wedi gweithio gyda Sgwad Caerdydd ac mae Benjamin Zephaniah wedi ymweld â Sgwad Caerffili.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn bwriad sicrhau bod Sgwad `Sgwennu ym mhob awdurdod lleol erbyn diwedd 2009, yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn bwriadu sefydlu Sgwad rhyngwladol ar gyfer pobl ifainc ag Anabledd, yn ogystal a Sgwadiau trwy gyfrwng ieithoedd eraill, megis Urdu a Somali.
Gwobr Cwmni Disglair
Fis Hydref 2008, gwobrwywyd yr Academi Gymreig â Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a sicrhaodd nawdd ar gyfer datblygu Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc – cynllun sydd eisoes wedi gwreiddio’n gryf ledled Cymru. Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r Sgwadiau `Sgwennu yn meithrin y goreuon a’u cyflwyno i’r byd ysgrifennu, a hwythau ond yn blant ifainc. Heb os, bydd sôn am aelodau’r Sgwadiau yn y dyfodol – maent yn haeddu pob anogaeth.”
Bu cynlluniau ar y gweill i ddatblygu rhestr o weithgareddau uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer y Sgwadiau. Yn 2009 bu'r Sgwadiau’n cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala a Gŵyl y Gelli Gandryll, yn cyd-weithio â Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke ac yn gweithio gyda Mererid Hopwood fel rhan o gywaith rhyngwladol rhwng Cymru ac India (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru). Mae cylchlythyr ar gyfer aelodau’r Sgwadiau wedi cael ei lunio er mwyn hybu undod rhwng y Sgwadiau, hysbysebu digwyddiadau, yn ogystal â rhannu gwybodaeth, gwaith a thechnegau dysgu.
Gall Llenyddiaeth Cymru gynnig nawdd er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i sefydlu Sgwad `Sgwennu’r Ifainc. Os ydych yn awyddus i sefydlu Sgwad yn eich hardal, peidiwch oedi rhag cysylltu â ni. Gallwch anfon unrhyw ymholiad at Leusa Llewelyn (Swyddog Plant a Phobl Ifainc)
leusa@llenyddiaethcymru.org
Dyfarniad Cwmni Disglair
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2007 y byddai cronfa o £4.5m yn cael ei chreu i’w ddefnyddio gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wobrwyo cwmnïau neu unigolion a ddangosai flaengarwch a rhagoriaeth ym myd y celfyddydau. Braint felly i’r Academi oedd derbyn Dyfarniad Cwmni Disglair a sicrhaodd nawdd i ddatblygu’r Sgwadiau `Sgwennu. Defnyddir yr arian hefyd i hybu’r cynllun Twristiaeth Lenyddol a fydd yn cynnwys gwibdeithiau llenyddol a gosod placiau i gofio awduron blaenllaw o Gymru. Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn defnyddio’r arian i ddatblygu cynllun llwyddiannus y Bardd Cenedlaethol.