GWAITH Y SGWADIAU

Y Prosiect Anthemau
I ddathlu pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn 5 oed, a’r cydweithredu creadigol y mae wedi ei ysbrydoli, mae Opera Cenedlaethol Cymru, Academi a’r Tyˆ Cerdd wedi dod ynghyd i weithio gyda Sgwad `Sgwennu Bro Morgannwg i ysgrifennu Anthem. Caneuon
dathlu yw anthemau, ac y mae'r Sgwad  wedi gweithio gydag awdur i ddewis thema, ac yna gyda chyfansoddwr i gael iaith gerddorol i fynegi’r anthem.

Anthem Sgwad `Sgwennu
Y cymoedd sy’n llawn cymdog ion
Y fro a’i helaeth enwogion
Hen chwedlau cenedlaethau
Oll dan faner llawn breuddwydion
Fy lle i, dy le di, ein lle ni
Cartref mor annwyl i mi
Cawsom brydferth dir i’w garu
Yr hen fynyddoedd uchel fry
Y môr yn flanced o ledrith
Dyma’r tir sy’n annwyl i mi
Fy lle i, dy le di, ein lle ni
Cartref mor annwyl i mi
Gweld ddoe yn ymladd dros ein hiaith
Clywed heddiw’n cynnig gobaith
Ac yfory estyn ei law
I’n harwain trwy gydol y daith
Fy lle i, dy le di, ein lle ni
Cartref mor annwyl i mi.
Sgwad `Sgwennu Bro Morgannwg