

Sgwad `Sgwennu Saesneg Caerdydd ar Ynys Echni, 2008

Sgwad `Sgwennu Cymraeg, Glanfa, WMC, Urdd Eisteddfod, Mai 2009

Sgwad 'Sgwennu Saesneg Caerdydd yng Nghanolfan Glyn Jones, Hydref 2010
CAERDYDD
Sgwad `Sgwennu Caerdydd
Sefydlwyd Sgwad `Sgwennu Cymraeg Caerdydd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd, 28 Mai 2009, ble cafodd y plant gyfle i weithio gyda'r Bardd Plant newydd, Twm Morys. Trefnydd y Sgwad yw Pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Plas Mawr, Eurgain Dafydd: ED@plasmawr.cardiff.sch.uk
Sgwad `Sgwennu Saesneg Caerdydd oedd un o'r Sgwadiau cyntaf a grëwyd a hynny tros ddegawd yn ôl. Cant eu gweinyddu gan Glyn Scott, cyn Brifathro ac Arolygydd Ysgolion, ac maent yn aml yn mynd ar dripiau cyffrous i lefydd megis Ynys Echni. Gellir cysylltu â Glyn trwy e-bostio: scottglyn@hotmail.com
Gweithgarwch Diweddar:
Bu'r Sgwad Saesneg mewn gweithdy gyda Daniel Morden, Cat Weatherill a Twm Morys yng Ngwyl y Gelli / Gweithdy gyda’r Bardd Plant, Twm Morys / Gweithdy creu straeon digidol ar y cyd â Phrifysgol Glamorgan / Digwyddiad yn y Senedd, gyda'r llenorion Ceri Wyn Jones, Robert Minhinnick a'r Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke (Sgwad Cymraeg a Saesneg) / Gweithdy adrodd straeon digidol o dan arweiniad Glyn Scott yn adeilad Prifysgol Glamorgan, yr Atrium (Sgwad Saesneg) / Gweithdy ysgrifennu barddoniaeth gyda Clare Potter yng Nghanolfan Glyn Jones yr Academi. Darllenodd y plant eu gwaith fel rhan o raglen digwyddiadau a pherfformiadau Penwythnos Agored Canolfan Mileniwm Cymru.
