CASNEWYDD

Sgwad `Sgwennu Casnewydd

Mae tri Sgwad Saesneg yng Nghasnewydd, a thua pymtheg i ddau aelod ar hugain ym mhob Sgwad. Gweinyddir y Sgwadiau gan aelodau Tim Cynghori Saesneg, Cyngor Addysg Lleol a threfnir y gweithgareddau gan Linda Jordan, Cyngor Sir Casnewydd: Linda.Jordan@newport.gov.uk. Cynigir gweithdai ysgrifennu o bob math i'r Sgwadiau.

Cynradd

Sgwad `Sgwennu Casnewydd
Mae'r aelodau'n cynnwys disgyblion o ysgolion ledled Casnewydd, sy'n perthyn i gyfnod allweddol 2. Mae'r Sgwad yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn, am weithdy diwrnod o dan arweiniad aelod o'r Tîm Cynghori Saesneg.

Gweithgarwch Diweddar:

  • Prosiect straeon digidol y BBC.
  • 'Ysgrifennu mewn rôl', Llancaiach Fawr.
  • Gweithdy ysgrifennu taith, ar drên gyda Tom Anderson, mewn cydweithrediad a threnau Arriva Cymru.
  • Cynhelir y gweithdy nesaf yng Nghanolfan 'Fourteen Locks Canal'

Uwchradd

Grŵp Ysgrifennu ysgolion Casnewydd
Arweinir disgyblion oedran blynyddoedd 7 ac 8 gan yr awdur taith Tom Anderson. Cynhelir y sesiynau ar foreau Sadwrn a cheir ymweliadau cyson gan awduron cyhoeddedig.

Gweithgarwch Diweddar:

  • Disgrifio llefydd a defnyddio synnwyr gyda Tom Anderson.
  • Defnyddio deialog gyda Barrie Llwewllyn, darlithydd ysgrifennu creadigol, Prifysgol Glamorgan.
  • Sesiwn farddoniaeth gyda'r bardd lleol, Paul Henry.
  • Newyddiaduraeth ac ysgrifennu ar gyfer cylchgronnau gyda Dylan Moore.
  • Technegau'r dychymyg, gyda Tom Anderson.
  • Datblygu cymeriad, gyda Gary Raymond.

Academi Ysgrifennu Ysgolion Casnewydd
Disgyblion blynyddoedd 9 i 13 a arweinir gan y newyddiadurwr a'r athro Dylan Moore. Maent yn cwrdd ar foreau Sadwrn, ac yn mwynhau gweithdai gan amryw o awduron.

Gweithgarwch Diweddar

  • Gweithdy ffuglen gyda Matthew David Scott gan ddefnyddio rhannau o nofelau graffeg fel ysbrydoliath, Gweithdy sgriptiau gyda Owen Thomas
  • Cyflwyniad i weithgareddau ysgrifennu gyda Gary Raymond
  • Barddoniaeth a chofiant gyda Clare Potter
  • Sgwennu taith gyda Tom Anderson
  • Darllen Llyfrau gyda Darran Shan.