
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Sgwad `Sgwennu Castell Nedd Port Talbot
Edrychwn ymlaen at sefydlu Sgwad Sgwennu Cymraeg yng Nghastell Nedd Port Talbot yn fuan yn ystod tymor yr Hydref 2009. Os hoffech geisio am le yn y Sgwad newydd, gallwch gysylltu ag Emily Hinshelwood ar emily@pantyrywen.wanadoo.co.uk
Gweithgarwch Diweddar:
Mehefin 2009: Bu'r Sgwad yn brysur yn creu a chyhoeddi eu cylchgrawn eu hunain. Aelodau'r Sgwad fu hefyd yn golygu'r cylchgrawn.
Medi 2009: Cymryd rhan yn y digwyddiad Sgwads yn y Senedd, gyda'r llenorion Ceri Wyn Jones, Robert Minhinnick a'r Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke (Sgwad Cymraeg a Saesneg).
