

Bwrdd gwyn Ceri Wyn Jones. Hawlfraint: Academi / John Briggs

TuChwith
CYFLEOEDD I AELODAU'R SGWADIAU
Cystadlaethau Ysgrifennu Creadigol a Phrosiectau:
Cystadleuaeth SLAMbassadors UK
Dyma gystadleuaeth yn yr iaith Saesneg i bobl ifainc rhwng 12 ac 18.
Ysgrifenna gerdd neu rap ar y testun 'hunaniaeth', yna ffilmia dy hun yn perfformio'r darn, a'i yrru i The Poetry Society - hawdd!
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ymgeisio, clicia yma!
Mae nifer o gystadlaethau iaith Saesneg wedi eu rhestru ar ochr Saesneg y wefan hefyd. Cliciwch yma i'w gweld.
Cylchgronau a Chyhoeddiadau:
tu chwith
Cylchgrawn unigryw, bywiog a heriol yw tu chwith sy’n edrych ar y celfyddydau, diwylliant a’r byd o’n cwmpas. Ei nod yw cyhoeddi ysgrifennu blaengar Cymraeg y Gymru ifanc, gyfoes. Mae tu chwith yn rhoi llwyfan i ysgrifenwyr ifanc neu unrhyw un sy’n meddwl tu allan i’r bocs. Thema rhifyn gaeaf 2010 - 2011 yw gwyddoniaeth.
Beth am gyfrannu darn i'r cylchgrawn sy'n cael ei gyhoeddi ddwy waith y flwyddyn? Mae tuchwith yn croesawu darnau creadigol, erthyglau, ysgrifau, celf, adolygiadau.
Beth am gyfrannu adolygiad i wefan tuchwith? Anfonwch eich gwaith at tuchwith@googlemail.com
Gallwch danysgrifio at y cylchgrawn ar y wefan hefyd.
