CYSYLLTU

Tros y ddegawd a fu, mae Llenyddiaeth Cymru wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru.

Llenyddiaeth Cymru yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cystadlaethau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr o bethau eraill. Llenyddiaeth Cymru sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru.

Noddir Llenyddiaeth Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o dderbyn Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru 2008 - 2010.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â

Leusa Llewelyn (Swyddog Plant a Phobl Ifainc):

leusa@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266

Llenyddiaeth Cymru
Ty Mount Stuart
Sgwar Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FQ