GWAITH SGWAD CEREDIGION

Bu Sgwad Sgwennu Ceredigion yn brysur ym mis Chwefror yn dyfeisio geiriau newydd sbon gyda Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury. Cliciwch yma i ddarllen y gwaith i gyd. 

Ababanana
Ababanana yw rhywbeth sydd
yn edrych fel banana
ond yn lliwiau’r enfys
ac yn blasu fel halen.

Tomasej
Ffrindiau gorau
o’r enw Tom
a’r llall yw
Sosej! sef
Tom a Sosej!
Tomasej.

Iaping
Iaping yw hufen iâ
sy’n blasu fel popty ping,
‘Na beth ‘ma ‘laping’ yn golygu i mi!




Cafodd Sgwad Ceredigion y pleser yn ddiweddar o gydweithio â'r bardd, a Meuryn newydd Talwrn y Beirdd, Ceri Wyn Jones. Dyma ambell bennil â ysgrifennwyd ganddynt am Gantre'r Gwaelod:

Pan fo’r môr yn mynd am adref,
pan fo’r llanw’n llai a llai;
pan fo’r pyllau’n sych i’r gwaelod;
pan fo’r traeth yn fwy na’r bae,
y mae gwreiddiau’n dod i’r golwg
drwy y mwd a’r tywod llaith;
gwreiddiau dyfnach na’r canrifoedd,
gwreiddiau sydd mor hen ag iaith.

Gwreiddiau sydd fel breichiau octopws,
gwreiddiau tywyll, hen ac unig;
gwreiddiau sydd fel pry copyn bychan,
gwreiddiau’n gafael ynoch chi.
Gwreiddiau diflas, gwreiddiau gaeafol,
gwreiddiau tywyll o dan y lli;
gwreiddiau coeden heb un cwmni,
gwreiddiau’r traeth, a’n gwreiddiau ni.

Gwreiddiau sydd fel draig enfawr,
gwreiddiau tywyll, trwchus, oer;
gwreiddiau sydd fel bysedd enfawr,
gwreiddiau’n gafael ynoch chi.
Gwreiddiau hanes, gwreiddiau pentref,
gwreiddiau cymdeithas o dan y lli;
gwreiddiau coeden yr hen Gymry,
gwreiddiau’n hiaith, a’n gwreiddiau ni

Cliciwch yma i weld mwy o gerddi Sgwad 'Sgwennu Ceredigion.

 

Bu Sgwad blwyddyn 6 Ceredigon yn brysur yng nghwmni'r awdures Mared Llwyd yn diweddar ym Mhentref Bach yn ysgrifennu cychwyh cyffrous i nofel. Dyma flas o'r gwaith:

“Mam, allen i gael rhywbeth i’w fwyta?” gofynnodd plentyn o’r pellter yn cwyno.
“Iawn, mae yna gaffi i lawr y ffordd.” Cerddodd y ddwy i lawr y stryd.
“Mam, pwy yw hwnna?” gofynnodd y plentyn. Roedd yna ddyn digartref yn eistedd ar ochr y ffordd, yn edrych yn dlawd. Doedd ganddo ddim teulu na chartref, dim ond hen garthen fudr yn ei gadw’n gynnes.
“Oes gennoch chi newid mân i mi?” gofynnodd y dyn ar ochr y ffordd. Cuddiai'r ferch fach tu ôl i’w mam.
“Nac oes, mae’n flin genna’i.”
“Wel, cewch o’ma te a gadewch fi i fod!” Cerddodd y ddwy yn gyflym i lawr y stryd mor ofnus â chath mewn dŵr! Teimlodd Guto yn siomedig ac yn flinedig. Doedd Guto ddim yn ddyn caredig iawn ac mi roedd yn casáu plant! Doedd ganddo ddim teimladau o gwbl.

Flwyddyn wedyn, roedd Guto yn dechrau mynd yn sâl oherwydd ei oedran…………


Yr Ysbryd

Heddiw, oedd y dydd, heddiw oedd dydd trip yr ysgol. Roedd pawb yn gweiddi ac yn chwerthin wrth i ni gyrraedd maes parcio’r castell. Cyn i mi ddeall bod y bws wedi stopio roedd pawb yn rhuthro oddi ar y bws. Dywedodd Mrs. Pugh i ni aros gyda’n gilydd a dal llaw ein partner. Roedd hyn yn anodd i fi oherwydd fy mhartner i oedd Owen Jones, y bachgen ych a fi mwyaf yn y byd felly doeddwn i ddim yn dal ei law e!

Wrth i ni fynd i’r tŵr cyntaf, clywais lais yn dod o’r toiledau. Roeddwn i am fynd i weld pwy oedd yna a beth oedd yna…………………



Chwifiai’r gwynt a’r glaw yn galed yn erbyn wyneb gwyn Cara. Cyrcydodd y ddau Labrador brown i lawr gan grynu yn wyllt. Roedd y storm yn gwaethygu, y glaw yn troi yn gesair. Pa mor hir fydd hi tan i ni gyrraedd pen y mynydd enfawr yma? Pam oedd y tywydd wedi troi o haul twym cynnes, fel sydd yn yr anialwch, i storm wyllt gas mor gyflym? A fyddai modd cyrraedd adre mewn pryd cyn i’w rhieni ddechrau pryderi? Beth bynnag a fydd yn digwydd, roedd yn rhaid gwneud yn siŵr bod y cŵn yn iawn, yn gynnes ac nad ei bod yn llwgu gormod.

Wrth gyrraedd pen y mynydd, dechreuodd y tywydd droi am yr ail waith heddiw. Gwelai Cara enfys yn ymestyn ar draws yr awyr lwyd, dywyll, ddiflas a oedd yn sleisio trwy’r cymylau duon trwchus. Ochneidiodd y ferch dau ddeg pedwar oed, a’r tu mewn iddi roedd tamaid bach o obaith yn tyfu…………..


Yr hunllef yn yr atig

‘Sut le fydd fy nhŷ newydd ,’ meddyliodd yr hen wraig wrth iddi drafaeli mewn tacsi melyn ar hyd yr M4 i mewn i Aberystwyth ble roedd yr hen dŷ. Y tŷ, ble byddai hi’n byw am rai blynyddoedd cyn y byddai’n symud i America. Yno, fe fu ei mab yr enwog leidr Twm Taten. Cofiodd yr hen wraig iddi unwaith fynd o amgylch y tŷ yn glanhau ac yno mewn cwpwrdd
gwelodd bistol mawr ac efo’r pistol roedd gemwaith o bob math o aur ac arian.
Arafodd y tacsi o flaen hen dŷ mawr du. Neidiodd allan o’r tacsi ac ochrgamu’r tyllau yn y pren pwdr ar y grisiau. Gwichiodd y drws mawr pan agorwyd ef a sgrialodd llygoden fawr ddu efo llygaid melyn creulon heibio iddi. Roedd grisiau enfawr o’i blaen, ac yno mewn cornel yn sgrechian nerth ei ben roedd babi bach ac o’i amgylch roedd ffwr ci mawr……………..


Yr Arian

Mae Sera yn 23 oed. Perchennog sŵ yw hi. Mae hi’n byw tu fas i Gaerdydd ar ben ei hun mewn tŷ mawr ond dydy e ddim yn grand. Mae hi’n hen ac yn cwympo i ddarnau. Wyt ti’n gwybod pam? Wel, dyma sut mae’r stori’n dechrau.
Mae gan Sera deulu eithaf bach, mam, tad, chwaer a phlentyn bach anti. Bu farw ei Nain dipyn yn ôl ond bu farw ei thaid yn weddol ddiweddar. Dyna pam mae hi’n byw yn yr hen dŷ yna. Chi’n gweld, roedd ei thaid yn gyfoethog iawn a phan bu farw rhoddodd ei arian i gyd i Sera. Dechreuodd Sera rentu tŷ mawr crand gyda’r arian.
Ond y noson arbennig hynny daeth dyn wedi gwisgo mewn du a dwyn yr arian. Felly, mae yn yr hen dŷ o hyd. Druan o Sera. Eisteddodd i lawr ar y soffa wedi cael ei hanner bwyta gan lygod. Dechreuodd wylio’r newyddion ar y teledu. Tybed beth oedd ar y newyddion. Allai hi ddim credu …… y stori am yr arian. Trodd y teledu i ffwrdd gan ei bod wedi cael llond bol ar y stori honno.
“Pwy oedd y dyn ‘na?” meddyliodd i’w hunan, “neu beth oedd e?”………..


Tair llygad werdd

Cododd Wini, gwrach y de, y bore ‘ma yn wên o glust i glust. Roedd hi wedi gwirioni’n lân ar ôl swyno coedwigwr i fod yn ddyn metel. Doedd dim syniad ganddo fod yna rhyw hen ddynes, croen gwyrdd seimllyd, yn mynd i’w swyno i fod yn ddarn rhydlyd o fetel. Roedd hi wedi ei symud tu allan ei ogof er mwyn addurno’r lle. Ogof yr Enfys Ddi-liw oedd ei enw. Wini ei hun, wrth gwrs, oedd wedi dewis enw’r lle. Roedd hi’n ddynes gas iawn heb deimladau o gwbl. Yr wythnos ddiwethaf, swynodd gi i fod yn gath a chath i fod yn gi, fel bod y gath yn cwrso’r ci. Clywodd rywun yn dod. Dwedodd hi “abracadabra”, troi i mewn i anifail fel cwningen ond cwningen â thair llygad. Doedd gan yr efeilliaid yma ddim syniad beth oedd o’u blaenau …………..


Carlamais lan y grisiau, roeddwn i’n hwyr, yn hwyr iawn, fflachiodd y golau trydanol bant ac arno. “Rwy’n chwarter awr yn hwyr!” mwmialais wrth fy hun. “Roedd y neges yn dweud yn bendant iawn fy mod i ddim i fod yn hwyr!” Cyrhaeddais dop y goleudy. Fflachiodd golau’r goleudy fel golau’r haul yn fy llygaid, a dyna lle yr oedd y dyn yn sefyll fel cysgod du o flaen y golau. Doeddwn i ddim yn gallu gweld ei wyneb ond roeddwn yn gwybod mai fe oedd e, mewn gwisg smart, yn syllu ataf i gyda llygaid llwyd, rhedodd ias i lawr fy nghefn……….
“John Morgan,” dywedodd y dyn mewn llais dwfn, “rydw i wedi bod yn aros amdanat ti am chwarter awr, pam?”
“Sori,” dywedais gan drïo’n galed i beidio gweiddi a tharo’r dyn yn ei wyneb, pwy oedd e’n meddwl oedd e yn meddwl ei fod y gallu fy ngwthio o gwmpas. “Oes gennyt ti wybodaeth am fy nheulu, neu ydw i’n gwastraffu fy amser?”
“Oes, mae gen i wybodaeth,” gwenodd o glust i glust. “Ond mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth bach yn gynta’, mae’n rhaid i ti neidio bant y goleudy……….”


Ysbryd yn y seler

“Iawn 'te, i ffwrdd â fi.” Roedd llais Siencyn yn grynedig “Beth ydw i’n gwneud? Pam wnes i gael fy hun mewn i ‘r sefyllfa yma? Rydw i yma nawr, rydw i’n methu mynd nôl.” Cerddodd yn araf tuag at y seler dywyll wlyb.

“Mae’n rhaid i mi brofi’r ffyliaid yma’n anghywir. Mae ‘na sut beth ag ysbrydion ac rydw i’n mynd i brofi hynny.” Roedd e erbyn hyn yn y seler. Gallai arogli hen fetel rhydlyd a llwch. Roedd ‘na lawer iawn o hen fetel a chadeiriau pren yna. Aeth ias oer lawr cefn Siencyn. “Beth oedd hwnna?” Roedd yn meddwl ei fod wedi gweld cysgod yn symud “Aaaaaaaa!” Daeth sgrech ddychrynllyd o’r seler……………………..


Roedd yn ddiwrnod trist iawn ym mywyd Gareth Jones, Roedd ei fam, Caroline, wedi marw mewn damwain car. Doedd Gareth ddim yn beio’r person wnaeth fwrw car ei fam oherwydd roedd ei fam newydd ddod 'nôl o’r dafarn. Yn yr angladd yn Eglwys Llanllwni, roedd ffrindiau Caroline yno i gyd. Aroglai’r eglwys o olew’r pren. Roedd yr angladd i fod yn angladd normal ac wedyn digwyddodd e…………..


Trip i’r Goedwig

Penderfynodd y ficer, Ioan y Plwyf, gynnal trip i’r goedwig ar y cyntaf o Fai 2011. Yr oedd Ioan y Plwyf yn edrych ymlaen am y diwrnod hwn ers wythnosau hir. Roedd o’n methu cysgu’r un chwinc. Un diwrnod oedd i fynd ac yr oedd pawb yn siarad am y trip.

Daeth llawer iawn o bobl ynghyd “Bant a ni bois i’r goedwig,” dywedodd Ifan y Plwyf………………….


Dyn yn farw, dyna be’ welais. Dwi’n siŵr. Cerddodd fy llygaid unwaith eto tu ôl i’r ‘waltsers’. Dyna lle roedd e yn gorwedd heb symud. Dim gwaed, dim cyllell, dim anadl nag unrhyw arwydd o fywyd ……. Hunllef mewn Paradwys


Roedd y gwynt cas, creulon yn chwythu'r farchnad stryd o’i chorun i’w sawdl ac roedd y glaw gwlyb yn gwlychu pawb a phopeth. Safai Mair yno yn trio gwerthu ei chacennau blasus ond nid oedd neb yn prynu, roedd pawb yn chwilio am gotiau glaw ac ymbaréls i’w hatal rhag y glaw. Roedd hi’n brysur, fel Caerdydd, yn y farchnad meddyliodd Mair, yn wlyb i gyd. Bu pawb yn gwthio a tharo ei gilydd i chwilio am beth roedden nhw eisiau ac er mwyn cael mynd nôl adref yn syth. Yna’n sydyn……….


Yr ysbryd annisgwyl

“Wel, barod am wyliau arall?” dywedodd dyn yn y cefndir. Roedd y teulu yn mynd o Lundain i Ffrainc. Roedd yna son wedi bod o’r blaen am ryw ysbryd sef Bwmba Swmba. Roedd y bobl wedi cael sioc o glywed am yr ysbryd ond, doedd y teulu bach ddim yn gwybod am yr ysbryd annisgwyl. Roedd gan yr ysbryd deulu o’r enw Mwmba (mam) a Clwmba (chwaer).

Roedd Bwmba yn hoffi twyllo pawb ond am ei fam a’i chwaer ……


“Arhosfan olaf - Grolatia,” gwaeddodd rhyw ddyn i mewn i feicroffon gan fy neffro i o’m trwmgwsg. Bues i, fy ngŵr a Fflur, fy mabi wyth mis oed ar yr awyren am ddau ddiwrnod a hanner cyn cyrraedd Grolatia, yr ynys fechan ro’n i newydd gael ei throsglwyddo iddi.
“Dere ‘mlân, siâpa hi!” meddai fy ngŵr Dylan, gan fy nharo yn fy ochr.
“Be’?” holais innau’n gysglyd.
“Dere, ni ‘di cyrraedd Grolatia!” atebodd Dylan. Wrth i mi glywed y geiriau ‘wedi cyrraedd’ deffrais yn llwyr, a dechrau cerdded tuag at yr allanfa. Wrth i mi agor y drws teimlais wynt poeth, ysgafn yn fy nharo. Doedd gen i ddim syniad pa drychineb oedd o’m blaen ………


 

 

 

 

 

Yr hunllef hudolus

Wyth oed yw Wil Evans ac mae e’n byw mewn bwthyn unig yng Ngheredigion. Mae ei fam a’i dad yn penderfynu mynd i’r pwll nofio lleol. Roedd Wil ar ben ei ddigon ei fod e yn mynd i nofio. Pum munud yn ddiweddarach, dyma'r teulu yn cyrraedd y pwll. Arferai Wil fynd i’w bwll nofio lleol ond, roedd rhywbeth yn wahanol am heddi’, roedd rhyw naws anarferol iawn yn y pwll. Daeth Wil allan o’r lle newid. Doedd dim llawer o bobl yno dim ond ei ffrind gorau.
“Helo,” dywedodd Wil wrth Dai.
“Helo, Wil, “ sibrydodd Dai yn drist. Yn aml, byddai Dai yn siarad yn uchel ei gloch.
“Be’ sydd yn bod Dai?” holais gyda chonsyrn.
“Mae mam a dad yn cwympo mas trwy’r amser,” dywedodd yn siomedig.
“Sori i glywed,” fe ddwedes i fod rhywbeth yn ansicr amdano.

Cyn i Dai ateb cydiodd rhywbeth am ei goesau a diflannodd o dan y dŵr rhewllyd………………..


Cyfarthodd Lili’r Labrador, gorweddai mewn basged gyda Ben wrth ei hymyl. Labrador bach hyfryd oedd Ben hefyd, roeddent yn berchen i’r Tywysog William a’r Dywysoges Kate. Roeddent yn byw yn Eryri mewn tŷ mawr crand.
“Dere mlaen glou Ben,” meddai’r tywysog fel pe bai mewn panig. Neidiodd Ben o’r fasged fel cath ar dan gan adael Lili yn gorwedd yn heddychlon yn y fasged fawr frown, yn y gegin fawr grand!!!!


 

Heddiw, oedd dydd y gêm rygbi ac roedd Llŷr Morris yn gyffrous iawn. Roedd e wedi bod yn aros wythnosau am heddiw. Dyn blêr a thrwsgl oedd e. Eisteddodd Llŷr yn ei sedd yn gwylio’r gêm rygbi. Roedd Cymru yn colli tri i bump ac roedd Llŷr yn anhapus achos hoff dîm Llŷr oedd Cymru.


Cerddodd dyn blêr yr olwg ar hyd y traeth tuag adeg machlud haul. Jac Morte oedd ei enw. Roedd e newydd ollwng llond cwch o bysgod yn yr harbwr cyn dod i gerdded. Doedd dim plant ganddo a dim ond pum mis yn ôl collodd ei wraig. Felly, byw gyda’i fam mae e nawr ac mae ei fam yn naw deg un oed. Byddai yn dod i Ynys Llanadeg i ollwng y pysgod bob wythnos ar y dydd Gwener, yna fe fyddai’n cymryd y cyfle i gerdded y traeth.


Dyna’r lle’r oedd Llywela yn syllu ar y garreg fedd yn meddwl am dric arall i’w chwarae ar Mirain. Meddyliodd tybed os mai tric dŵr y dylsai ei chwarae arni. Tynnodd ei ‘iphone 4’ allan a deialu. Dechreuodd y ffôn ganu. “Dere ‘mlân Esyllt ateba’r ffôn,” meddyliodd yn flin. Ond i’r peiriant ateb aeth e. Trïodd eto ond na dim ateb.

Syllodd ar y garreg eto ond o gornel ei llygaid gwelodd ffigwr gwyn. Trodd yn sydyn.
“Dwi’m ofn sti,” dywedodd Llywela yn crynu. Roedd ofn mawr arni a dweud y gwir. Gwelodd e eto. Tu ôl i’r goeden.


Doeddwn i ddim yn ceisio colli Mari. Aethon ni i siop losin Lowri yn y ganolfan siopa.
“Helo, blant bach,” meddai hi.
Rydw i’n casáu Lowri Losin. Mae hi’n trin ni fel plant bach pump oed. Rydw i a Mari bron yn dair ar ddeg nawr!
“ Beth hoffech chi gael heddiw?” gofynnodd hi. Cawson ni pic-a-mix yr un.
Ar ôl talu am y pic-a-mix eisteddon ni ar y fainc tu allan i’r siop. Rydw i a Mari wedi bod yn ffrindiau gorau ers dechrau yn yr ysgol feithrin.
‘Typical’ Mari angen y toiled. Welais i mohoni hi wedyn.
Ar ôl aros am hanner awr iddi, penderfynais fynd i chwilio amdani. Dyna pryd y digwyddodd e.
Clywais sgrech y tu ôl i mi…………………………


“Gwilym!” sgrechiodd Eirlys.
“Beth?” atebodd Gwilym.
“Ble mae fy sandalau i?” dywedodd Eirlys.
“Yn y cwpwrdd ar bwys y gwresogydd!” atebodd Gwilym. Roedd Eirlys wedi cael llond bola, roedd y llyfrgell yn fudr a brwnt ac roedd Gwilym yn sâl. Penderfynodd Eirlys adael Gwilym yn y tŷ pan yr oedd hi’n mynd i’r llyfrgell. Roedd hi’n fore dydd Gwener ym mis Mai ac roedd hi’n bwrw glaw!

Pan gyrhaeddodd Eirlys y llyfrgell, roedd Mr Tomos yn ei disgwyl hi. “Ble’r ydych chi wedi bod Eirlys, rydw i wedi bod yn eich disgwyl chi ers awr ac mae’r llyfrgell yn fudr!” dywedodd Mr Tomos yn flin.
“Sori Mr Tomos, roedd yna jam traffig,” dywedodd Eirlys, roedd Eirlys yn dweud celwydd. Diwrnod arall o’r gwaith, meddyliodd Eirlys i’w hunan tybed beth fydd yn digwydd heddiw?……..


“Wel, dyna oedd y Sioe Frenhinol orau erioed,” dywedodd Dai yn hapus wrth Mari, ei wraig. Ffermwr brwd oedd Dai wedi bod erioed, yn helpu ei dad yn y caeau yn fachgen ifanc. Ond ar ôl i’w dad farw roedd Dai yn unig, nid oedd ganddo ffrindiau ac roedd ei fam wedi marw pan oedd yn ddwy.
Un diwrnod aeth Dai i fart yn Nhregaron. Doedd e byth yn prynu dim. Mynd i gael cwmni pobl eraill yr oedd e. Pan oedd ei dad yn fyw roedd fferm Tŷ Gwyn yn fferm adnabyddus iawn. Roedd Dai yn drist am fisoedd ar ôl i’w Dad farw, ond daeth rhywun mewn i’w fywyd a’i newid am byth!……..


Un deg chwech oed yw Rhys Evans. Mae’n byw yng Nghaerfyrddin ac mae’n mynd i Ysgol Uwchradd Caerfyrddin. Byw mewn byngalo mae Rhys efo’i fam, ei dad a’i chwaer fach Catrin.
“Wyt ti’n gallu mynd â Catrin i’r syrcas plîs Rhys?” gofynnodd mam Rhys iddo un diwrnod.
“Ond Mam, mae’r gêm fawr pêl-droed heddiw. Lerpwl yn erbyn Manceinion Unedig,” meddai Rhys yn siomedig. Doedd Rhys byth wedi colli gem bêl-droed pan oedd Lerpwl yn chwarae.
“Wna i recordio’r gêm i ti,” meddai Mam.


 

 

 Moel y Llyn

Afon Leri’n dawel, dawel,
Afon Ceulan heb un awel,
Dwy felin heddiw’n llonydd -
Ddim yn gweithio heb afonydd.

Angen dŵr ac angen arian,
Angen dŵr i fynd i’r Ceulan,
Angen dechrau tyllu ffosydd,
Angen dŵr o gopa’r mynydd.

Roedd y llyn yn gwbl dawel
Fel rhyw fedd ar bwys y capel,
Roedd rhyw sibrwd bob yn ail,
A’r gwynt yn chwythu trwy y dail.

Clywodd bawb sŵn mellten fawr
Fel rhywun yn gwneud camau cawr.
Yn sydyn, daeth y glaw i lawr
A’r afon sy’n llawn dŵr yn awr.

Sŵn o’r llyn a glywais,
Ofn dychrynllyd a gefais.
I’r pentref wedyn rhedais
Fel fy mod yn sgori cais.

Fflachiodd mellt yn syth o’r cerrig,
Cwympodd glaw yn syth o’r nen,
Rhedodd y dynion tuag adre’,
Rhedeg rhag y storm uwchben.

Dianc o’r taranau swnllyd,
Dianc wnaeth y dynion dryslyd,
Dianc nôl i’r dyffryn llonydd,
Pawb yn ffoi i lawr o’r mynydd.

Rhedeg wnaeth y dynion ofnus
Lawr o’r sŵn oedd mor ddychrynllyd,
Rhedeg fel y fellten swnllyd,
Rhedeg fel y storm ddychrynllyd.

 

Cyfansoddwyd gan griw Sgwad ‘Sgwennu Ceredigion 2010
dan arweiniad Hywel Griffiths