GWAITH Y SGWAD

Ionawr 2012

Mae Sgwad Ynys Môn wedi bod yn brysur unwaith eto - yn ymweld â Llys Rhosyr y tro hwn, sef un o lysoedd Llywelyn ein Llyw Olaf ar ochrau Niwbwrch. Cafodd y criw gyfle i ddysgu ychydig am hanes y lleoliad, yn ogystal a cael cwrdd â Nei Johnstone, yr archeolegwr cyntaf a fu'n tyrchu yn Llys Rhosyr. Bu'r criw wedyn mewn gweithdy â'r bardd Ifor ap Glyn gan ysgrifennu cerdd mewn ymateb i Lys Rhosyr.

Llys Rhosyr


Dyma gerddi aelodau Sgwad Sgwennu Môn:
 

Llys Rhosyr
Esgyrn adeilad yn gorwedd yn aflonydd
Wedi ei drywanu i lawr a’i gladdu yn y tywod
ond yn atgyfodi’n araf, llawn dial
Pawb wedi anghofio amdano – ond eto’n cofio, yn gwybod beth ydyw.
Y tywydd yn ein herbyn
Nid oedd o eisiau ni yno
Roedd o eisiau llonydd i alaru am Llywelyn,
drwy daflu’r tywod ar ei furiau
Pam nad ydyw eisiau ni yno?
Pawb wedi anghofio amdano?
Y tywod wedi ei orchuddio rhag ei bobl
Pam ei gloddio eto?
Beth ydyw i ni rŵan, os anghofiwyd ef o’r blaen?
Pam codi cywilydd ar y safle?
Pam dangos i’r wlad y gweddillion nad oedd y Saeson eisiau?
Pam dangos pa mor wan ydoedd?
- - - -
Colli fy waliau,
Colli fy mherchnogion
Colli fy enw a cael fy rhwygo’n gae.
Nid ydynt yn deall fy mhoen
Wedi ngwahanu oddi wrth fy ffrindiau cryf
Nid ydynt yn fy amddiffyn bellach
Gadewch i mi alaru mewn heddwch…

Gethin Rhys Rowlands

 

Adfeilion Rhosyr
Gwynt, glaw a gweddi
Cae Llys a’i hanes cudd
Pererinion gyda gobaith
Beth orweddai ‘dan y tir?
Y tywod yn cuddio ein hanes
Claddwyd y llys mewn bedd oeraidd
Ei rewi mewn amser ac arbed y cwbl
Dal yno i’w gloddio, ei ddatgelu, ei gadw.
Gwynt, glaw a gweddi
Cae Llys a’i hanes cudd
Pererinion gyda gobaith yn cloddio’r bedd,
yn darganfod balchder hanes.

Elen Jones



Y Llys
Mae’r tan yn oer yn y Llys
Un storm yn ormod
Un tywysog mud yn ormod
Adfail sy’n aros i atgyfodi
O ganolfan cwmwd i ganol nunlle
Mae’r cerrig mawr wedi gadael i greu castell mwy
Dim ond enwau sydd gennym bellach...
Mewn cae di-nod yng ngorllewin Môn
yn dawel, ddiseremoni
gorwedda lludw Llys Rhosyr
yn barod i atgyfodi

Dafydd Jones

 

Y Llys
Ardal ddistaw a mawr
Cefn gwlad yw nawr
Ai nawr yw’r hen oes?
Mynwent ddiystyr
Heb ddim tosturi
Dal yn sefyll y mae...
Gwreiddiau’r nyth
Sy’n dal yn syth
Ai gwyrth yw hyn?
Syllu mewn loes
Yn meddwl am yr oes
Ai hyn fydd ein stori ni?
Sawl blwyddyn yn ôl?
Sawl bloedd yn ôl?
Sawl marwolaeth yn ôl?
Sawl murddun yn ôl?
Sawl fi yn ôl?

Aled Thomas

 


 

Rhagfyr 2011

Yn ddiweddar aethpwyd i ymweld â Din Llugwy safle hanesyddol pwysig iawn ar Ynys Môn, cyn bwrw ati i ysgrifennu darnau creadigol am y profiad. Cliciwch yma i weld y darnau creadigol a ysgrifennwyd gan griw Ynys Môn.