

MERTHYR TUDFUL
Sgwad `Sgwennu Merthyr Tudful
Mae un Sgwad Cymraeg, Y Sgwad `Sgwennu Cyffrous, ac un Sgwad Saesneg , The Exiting Writing Squad, ym Merthyr Tudful. Gus Payne, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Sir Merthyr Tudful sy’n gweinyddu Sgwadiau Merthyr: Gus.Payne@Merthyr.gov.uk
Gweithgarwch Diweddar:
Mai 2009: Diwrnod yng Ngŵyl y Gelli gyda Daniel Morden, Cat Weatherill a Twm Morys.
Medi 2009: Cyhoeddi casgliad dwyieithog o waith y Sgwadiau: Journey to other Places / Taith i Lefydd Gwahanol. Bu’r Sgwadiau’n gweithio gyda Phil Carraduce, Ed Holden, Catrin Dafydd, Gwyn Morgan, Grahame Davies ac Ifor ap Glyn ar y darnau yn y llyfr. Aeth y Sgwad ar sioe radio Roy Noble i sôn am y gyfrol newydd.
Mawrth 2010: Gweithdy mewn ymateb i arddangosfa Artes Mundi 4 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bu Ceri Elen yn gweithio gyda'r grŵp i ysgrifennu pytiau o ddrama, gan ganolbwyntio ar sut i greu naws gyda geiriau.
