

Ceri Wyn Jones & Gillian Clarke

Sgwadiau `Sgwennu Pen-y-bont yn gweithio
NEWYDDION
Cadair yr Ifanc, Esiteddfod Llanllyfni
Llongyfarchiadau mawr i Grug Muse, aelod o Sgwad `Sgwennu Gwynedd ar ennill Cadair yr Ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni. Dywed Andrea Parry fod ei cherdd yn "gerdd delynegol hyfryd…rwy'n ffyddiog y gwelwn ei henw ar y sin farddonol yn gyson yn y dyfodol."
Gellir darllen y gerdd 'Hedfan' yn y rhifyn cyfredol o Barddas, tudalen 18.
Llwyddiant i Gyn-Sgwadiwr
Braint enfawr i fudiad Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc yr Academi oedd clywed fod cyn-aelod o Sgwad `Sgwennu Gwynedd wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron, Ceredigion.
Cipiodd Gruffudd Antur, 18 o Lanuwchllyn, dair gwobr gwaith cartref am ysgrifennu barddoniaeth cyn clywed wedyn iddo ddod yn ail yn un o brif wobrau llenyddol yr Urdd. Tonnau oedd testun ei gerdd a bu iddo ddefnyddio'r testun i sôn am hen ŵr ar long yn cael ei draflyncu gan storm, a hyn wedyn yn drosiad estynedig o Gymru.
“Roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i wedi ennill y gadair, ond doedd gen i ddim syniad o gwbwl fy mod i wedi cael ail! Roeddwn i'n nerfus ofnadwy'n gwrando ar y dyfarniad. Wrth edrych yn ôl rydw i'n sylweddoli pa mor werthfawr oedd y gweithdai a gefais fel aelod o Sgwad `Sgwennu Gwynedd. Cefais gwrdd â rhai o lenorion mwyaf Cymru, gan gynnwys mynd ar daith deuddydd i Lundain yng nghwmni'r diweddar Iwan Llwyd. Mi fyswn i'n annog aelodau'r Sgwadiau `Sgwennu i wneud yn fawr o'r profiadau y maent yn eu cael, i fwynhau eu hunain ac i gystadlu mewn cystadleuaeth megis rhai'r Urdd”.
Creu Dau Sgwad Cymraeg Newydd
Mae’r Academi’n hynod falch o gyhoeddi fod dau Sgwad newydd wedi eu sefydlu yn ne Cymru.
Bu i Sgwad `Sgwennu Cymraeg Abertawe gwrdd fis Mawrth yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda’r prifardd Tudur Dylan Jones. Disgyblion o Ysgol Gyfun Gwyr yw craidd y Sgwad ar hyn o bryd, ond gobeithir denu aelodau o Ysgol Bryntawe ac Ystalyfera maes o law. Gellir darllen ffrwyth y gweithdy trwy glicio yma.
Ddydd Mercher, 2 Mehefin, bydd Sgwad `Sgwennu Cymraeg Ceredigion yn cyfarfod am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron. Wedi trafodaethau rhwng Academi, staff Pentre Bach a staff adran addysg Cyngor Sir Ceredigion, daeth i'r amlwg fod angen Sgwad Cymraeg newydd yng ngwaelod y sir, yn ychwanegol at y rhai sydd eisoes yn bodoli ac yn cwrdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd y Sgwad newydd yn ymgartrefu ym Mhentre Bach, ar set y gyfres deledu i blant sy'n dwyn yr un enw. Dymuniad T. Llew Jones oedd gweld Pentre Bach yn dod yn rhyw fath o ganolfan ysgrifennu i blant, felly pa well lle i'r Sgwadwyr feithrin eu doniau. Y bardd ifanc Hywel Griffiths fydd yn arwain sesiwn gyntaf y Sgwad, a bydd modd darllen eu gwaith yma yn fuan.
Dilyn Ôl Troed Kate Roberts
Llongyfarchiadau mawr i Grug Muse o Fron, Caernarfon sy'n aelod blaenllaw o Sgwad `Sgwennu Gwynedd am ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer Kate Roberts (grŵp oedran 12 – 17 oed). Lansiwyd y gystadleuaeth yn Eisteddfod Meirionnydd a'r Cylch, ac fe'i trefnir ar y cyd rhwng Canolfan Cae'r Gors, Cynllun Hyrwyddo Gwynedd a Phrifysgol Cymru. Darllenir y stori ar Radio Cymru a'i chyhoeddi ar wefan Cae'r Gors a'r Academi. Rhowch glic yma i ddarllen y stori.
Mastermind Plant Cymru 2009
Llongyfarchiadau enfawr i Joseph Glyn am ennill cystadleuaeth Mastermind Plant Cymru. Mae Joseph yn aelod brwd o Sgwad `Sgwennu Gwynedd.
Gellir darllen rhagor am gamp Joseph trwy glicio yma.
Ysgrifenwyr Ifainc yn dathlu deng mlwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol
Fis Medi 2009, daeth 58 aelod o Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc o dde Cymru ynghyd yn y Senedd a Thŷ Hywel ym Mae Caerdydd i ddathlu deng mlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac i greu cerddi am y Senedd o dan arweiniad rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru.
Cyfranogodd 12 Sgwad `Sgwennu o 8 awdurdod lleol i’r digwyddiad, gan gynnwys Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Roedd y digwyddiad yn rhan o gynllun yr Academi i ddatblygu Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc o ganlyniad i’r nawdd ychwanegol a dderbyniwyd trwy Ddyfarniad Cwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru. Tros y ddegawd a fu mae’r Academi wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru. Nod Sgwadiau `Sgwennu yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid creadigol Cymru. Mae Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc yn croesawu plant sy’n dangos addewid yn eu gwaith llenyddol.
Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc yr Academi wedi cydio yn nychymyg awduron newydd ar hyd a lled y wlad. Gyda chymorth Gwobr Cwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru mae’r Sgwadiau wedi cael y cyfle i weld sut mae’r llywodraeth yn rhedeg, ac wedi profi’n fwy nag abl i ymateb yn greadigol i hyn. Mae dyfodol llenyddiaeth Cymru mewn dwylo da.”
Yn ystod y digwyddiad, cafodd y Sgwadwyr eu tywys ar hyd y Senedd a Thŷ Hywel gan Swyddogion Addysg y Cynulliad, cymerasant ran mewn dadl yn Siambr Hywel yn ogystal â chwrdd ag Aelodau Cynulliad o’u hardal hwy, gan gynnwys Peter Black AC a Nerys Evans AC.
Yn y prynhawn, rhannwyd y bobl ifainc yn dri grŵp i weithio gyda rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’r grŵp Cymraeg yn gweithio gyda Ceri Wyn Jones, un grŵp Saesneg yn gweithio â Robert Minhinnik a’r grŵp Saesneg arall yn gweithio gyda’r Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke. Ysgrifennwyd hanner cant o gerddi yn ystod y diwrnod, a bydd yr Academi’n cyhoeddi casgliad ohonynt mewn pamffled i goffau’r diwrnod. Dyma flas o’r gwaith a grëwyd:
Yn y pren fe deimlad oel hanes yn craffu
Trwy'r llechi gwelaf ofal am dreftadaeth
Ar y botymau gwelaf yr iaith Gymraeg yn carlamu.
Trwy'r ffenestri caiff rhyddid lifo
Manon Angharad Gwynant, Bl.9
Sgwad Caerffili
Yn y Senedd mae annibyniaeth yn teyrnasu
Yn y llechi clywaf leisio barn
Yn y gwydr gwelaf dryloywder teg
Yn y bobl teimlaf falchder.
Miriam a Mari
Sgwad Sir Gaerfyrddin
Yn y Bae caiff annibyniaeth ei fagu
Yn y Bae mae llais i Gymru yn tyfu
Yn y seddi mae brwydr yn dechrau
Brwydr enfawr dros ein hawliau.
Anna Richards, 12
Sgwad ’Sgwennu Pen-y-bont
