



CYNADLEDDAU'R SGWADIAU
Cynadleddau'r Sgwadiau
Cynhadledd y Gogledd, Wrecsam, Canolfan Adnoddau Gwersyllt, 19 Mai 2010.
Cynhadledd y De, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe, 10 Mehefin 2010.
Trefnwyd dwy gynhadledd gan Llenyddiaeth Cymru yn seiliedig ar gynllun Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc; un yn Wrecsam ac un yn Abertawe.
Hyderwn fod y cynadleddau wedi bod yn gyfleoedd cyffrous i gyfarfod â threfnwyr Sgwadiau, darpar drefnwyr a staff o wahanol awdurdodau lleol. Cafwyd cyfle hefyd i gyfnewid syniadau ynglŷn â threfniant Sgwadiau a gwrando ar brofiadau awduron sydd eisoes wedi gweithio â’r Sgwadiau.
Yng Nghynhadledd y Gogledd bu Francesca Kay yn sôn am ei phrofiadau o weithio gyda’r plant a bu dwy o drefnwyr y Sgwadiau, Bethan Hughes (Sgwadiau Sir Ddinbych) a Tracy Evans (Sgwadiau Castell Nedd Port Talbot) yn trafod sut i fynd ati i drefnu gweithgareddau ar gyfer y Sgwadiau.
Yng Nghynhadledd y De bu'r awduron Robert Minhinnick a Mererid Hopwood yn sôn am eu profiadau o weithio gyda’r plant a bu dau o drefnwyr y Sgwadiau, Glyn Scott (Sgwad Caerdydd) a Gus Payne (Sgwadiau Merthyr) yn trafod sut i fynd ati i drefnu gweithgareddau ar gyfer y Sgwadiau.
