
SGWAD ' SGWENNU EISTEDDFOD WRECSAM
Eleni daeth criw ffantastig o 'sgwennwyr ifainc i'n stondin ar faes yr Eisteddfod i gwrdd â'r ddwy awdures, Bethan Gwanas a Haf Llewelyn:
.jpg)
Boncyrs!
Mi fuodd Joseff, Dyfan, Huw, Mirain, Elin, Nel, Leah, Lisa, Tomos, Gruffudd, Catrin, Siôn ac Ifan yn crwydro'r maes yn pipian yn y pafiliwn ac yn chwilio am straeon rhwng y stondinau. Mi fuodd y criw yn clustfeinio ar sgyrsiau doniol, ac yn tynnu lluniau o bethau gwirion bost ar faes Eisteddfod Wrecsam eleni.
Dyma waith y Sgwadwyr, mwynhewch!
Y Plentyn Heb Ei Fam
Mae na un ym mhob 'steddfod, pob blwyddyn, fel rhyw dradodiad hanfodol, chwithig.
Byswn i'n synnu os nad yw'r Archdderwydd ei hun ddim wedi troi o gwmpas mewn rhyw Eisteddfod pan yn blentyn bach diniwed, i ddarganfod bod rhiant wedi diflannu, ac yna wedi cychwyn beicio crio fel babi.
A dyma chdi, un o blant coll yr Eisteddfod, yn eistedd ar fainc y tu allan i S4C, yn siglo dy goesau yn ansicr fel pediwlwm hen gloc tad-cu. Yn dy freichiau, wedi ei wasgu'n dynn fel tedi bêr mae bag cefn pinc, ac ar ei flaen, delwedd o dywysoges lon, dy arwres. Mae na rîd coch blin yn codi ar dy fochau ac fel oen ifanc yn brefu am ei fam, ti'n galw am dy rhieni, wrth i dy lygaid glas, gofidus, gychwyn llenwi gyd tonnau bach o ddagrau.
Na, dydi bywyd ddim yn berffaith, er waetha' be mae'r dywysoges benfelen honno, neu Sali Mali'n dy ddysgu. O bryd i'w gilydd, mae rhieni'n diflannu o dy olwg, ac beth wedyn? Beth rwan?
Gwelaf sawl cais am ateb, opsiwn, syniad, cliw yn rhuthro ar hyd dy wyneb fel cymylau ar hyd awyr stormus. Mae dy aeliau yn clymu, a dy drwyn yn rychu wrth i ti bendroni yn ddwys a gwylio’r heidiau o bobl yn prysuro heibio, eu llygaid wedi glynu fel taffi at enwau’r stondinau, pebyll, pafiliwn – pob man heblaw amdant ti.
Ac yna – gwyrth! Ti’n clywed dy enw yn cael ei alw, a dyna hi, yn carlamu tuag atat. Mae’r gofid yn anweddu ar y ddwy ochr, ac rhyngoch mae pont newydd o ddealltwriaeth yn sefydlu ei hun: ddylet byth adael Mam i fynd at unrhywun mewn Eisteddfod, ddim hyd yn oed Martin Geraint!
Ond pan, ymhen blynyddoedd, bydd dy rhieni yn dy gywilyddu wrth adrodd yr hanes o flaen dy ffrindiau, paid a phoeni. Cofia bod bron pob Cymro – hyd yn oed Cyw, Martin Geraint a Sali Mali – wedi mynd ar goll yn yr Eisteddfod.
Leah Huws
Mae pobol y steddfod
Yn bobol wahanol,
A dyma fi rwan
Yn sefyll yn eu canol.
Dacw het ryfedd
gyda twll yn y top,
A gwallt mawr cyrliog
Yn edrych fel mop.
Gwallt hir
ac eitha llwyd
Dyn tal iawn
Sy’n hoffi ei fwyd.
Dyn byr iawn
Gyda het ryfadd,
Dillad hen ffash
Sy’n hoff o yfad.
Mae llawer o bobol
yn gwisgo coch
Ac yn edrych fel tasen
Yn byw efo’r moch.
Canu gwerin,
canu clasurol,
Canu roc,
Mae llawer o bobol
Hwntws a gogs
2 dafodiaeth gwahanol,
Ac mae un iaith
o’r dwyrain canol.
Iaith y Rhos
Yw Nene Ene,
Ac yn y de
Tyrd yw dere.
Blasu byrgyr
Neu gi poeth,
Dim gormod ohono
Dyna sy’n ddoeth.
Pobol wahanol
Yw pobol y steddfod,
Cau ngheg rwan
Dwi di deud gormod.
Huw Edward Jones
Fane mai’n sefyll hefo sbectol haul enfawr Lucky ar draws ei hwyneb a ffôn symudol mewn cas du lleder yn ei llaw. Yn pwyso ar un fraich mae bag Cath Kidston blodeuog, pinc, gwyrdd, a hufen a breichled arian llawn charms Pandora am ei braich frown yn gymydog i’w oriawr Dolce and Gabanna.
Mae hi’n symud yn un llif gwyn yn ei throwsus linen a’i phen yn uchel. Am ei thraed mae esgidiau sodlau uchel du a gwinedd ei thraed wedi eu peintio yn binc poeth taclus.
Mae’n fy nghyfarch â gwen ffals a’r ffôn yn mynd gyda miwsig aria wrth gwrs.
“O hyfryd clywed gen ti, Caryl!” gweidda yn uchel gan droi i sibrwd ‘Caryl Parry Jones’ arna i.
A ffwrdd a hi i gael glasied o win gwyn sych.
Mirain Roberts
Monolog Hen Ddynes
Wel am jaden!! Wedi sbwylio’n niwrnod. ‘Mond isho nôl ‘chydig o bic a mix i Guto bach o’n i cyn mynd i’w weld ar lwyfan y pafiliwn. A dyma fi, tu allan i’r pafiliwn, ac yn bwyta da das f’annwyl ŵyr. Bechod, fydd Guto ar y llwyfan yn chwilio am ei nain…
Pedair punt pum deg! Pedair punt pum deg! ‘Sa’r bali pic a mix gwirion ‘ma ddim di costio mwy na punt pum deg ym mecws y pentra. Dim mond ychydig o hyn a’r llall roish i yn y bali bag!!
Wel wrach bo ychydig o fai arna i, ond ‘swn i’m wedi ‘let off steam’ os sa’r hogan tu ôl y til ddim mor sbeitlyd.
“Hurry up will you”, wir! Sut o’n i fod i wybod pa Jelly Babies oedd ffefryn Guto heb ffonio’i fam? A sut o’n i fod i wybod pa liw gummy bear oedd o’n ei gasau heb decstio’i dad?! Wel wir, mi
ddudish i wrthi’n blwmp ac yn blaen – “I’m never coming back to buy your expensive junk…!”
Ond ew mae’r da-das yma’n dda, yn ufflon o dda i ddeud y gwir, a sa’n biti i Guto bach beidio cael dim byd am wneud mor dda.
Dyfan
‘Dw i’n barod i fynd ers hanner awr i’r blincin rhagbrawf. Ond dal i ffysian dros ei gwallt gwyllt ma’r ‘fake-tan-fanatic’ – sori – chwaer. Eistedd ar bige drainydw i yn adlen y garafan rhydlyd, pre-historic, da i ddim. Sbio bob hyn a hyn allan o’r plastic clir ar fyd bach y maes carafannau. Pobl od sy’n pasio. Mae’r hen ddyn tew gyda’r braces tyn sydd bron iawn a thori a’r het wellt sydd prin yn ffitio ar ei ben ‘di pasio bron i saith gwaith yn barod. Tybed be sgena fo o’i flaen heddiw ‘ma. Un peth sy’n sicr tydi ei chwaer oren o ddim yn ei ddal yn ôl.
“Cari tyrd ‘laen!” ‘dw i’n gweiddi. O hyd wbath do’s!
“Paid a hasslo fi’r gloman!” medda hitha’n chwim.
“Gad dy chwaer fod, Leri” medda Mam yn undonog.
Fyddai’n hwyr. Eto. Ymlwybro wna fy llygaid diflas tuag at y plastic clir yna, ETO. Rhyw ddynes slim, soffistigedig, BBC-aidd, pwysig dros ben yn pasio heibio tuag at ei chawod boreuol. Ei sbectol haul yn cuddio hanner ei hwyneb ac antur chwil y noson gynt. Gwen ffals yn llenwi hanner gwaelod ei hwyneb wrth basio aelod arall pwysig o’r BBC.
“Ma’ hyn yn ridic!” medda fi.
“Ridic?” – Mam – “Ti ‘di anghofio sut i orffen dy eirie erbyn hyn Leri?”
Dal i basio mae’r unigolion rhyfedd, dynes fechan llond ei chroen yn teithio bron zero milltir yr awr, yn araf, araf, ar hyd y bariau metal, yn ymlwybro tuag at y maes. Hen gradures. Y ffordd mae ‘more i’n mynd fydd hi wedi cyrredd y maes ymhell cyn fi mae hynna’n sicr!
“Wel, ddechreua i felly…”
‘Dw i’n taflu’r geirie tu ôl fy ‘sgwydde wrth geisio agor y blincin adlen da i ddim sydd trwy wyrth yn dal i sefyll ‘rôl glaw aruthrol y noson gynt.
“’Dw i’n dod! Dal dy ddŵr!”
Rhuthra Mam allan o grombil y garafan, gan lusgo’r anghenfil oren gyda hi.
“O’r blincin diwedd!” medda finna mewn rhyddhad.
Felly dyma’r dair ohonan ni’n brasgamu yn wyllt fel gwallt carpediog fy chwaer, tuag at y maes.
Wnes i ddim pasio’r hen ddynes llond ei chroen yn y diwedd. Troi nôl bu rhaid i’r dair ferch wyllt. Rhywsut neu gilydd don i’m yn meddwl bydde fy ffrog flodeuog, mwdlyd, gwlyb socian yn plesio beirniaid fy nghystadleuaeth.
Felly oeddwn, mi oeddwn i’n hwyr. ETO.
Lisa Erin Owen
Pam wnes i gytuno i wneud hyn? Oni’n meddwl y basa fo’n hwyl, yn brêc o’r gwaith arferol tu ôl i’r stondin, ond job poeth, anghyffyrddus, diflas, chwyslyd…yr unig ddarn wna i fwynhau ydi dod allan o’r ffwr tew yma.
‘Dw i’m yn cael fy nhalu digon o gwbl, i feddwl mod i’n chwysu chwartia i gadw plant yn hapus. Ma’ nhw’n joio, ond dwi mewn yn y wisg yma am hanner awr arall, mae’n artaith! Wel ‘dw i’n dweud un peth, dwi ddim yn gwneud y gwaith yma eto!
Mae hogyn bach yn dod ataf fi ‘wan isho cwtsh, mae’r plant bach wrth eu boddau! Bechod, ond mae’n rhaid i i weithio’n galed i stopio fy hun rhag mynd i isda yn un o gadeiriau’r caffi a tynnu’r wisg ddieflig ‘ma!
25 munud ar ôl rwan, cawod hir wedyn! Diolch byth bod neb yn fy ngweld i rwan, achos mae fy ngwyneb yn hollol groes i sut dwi’n edrych yn chwifio ac yn rhoi ‘high five’ i bawb…o allai’m disgwyl i ddod allan o’r wisg ‘ma…O na, plentyn arall yn dod rwan…
Nel Angharad Huws
Ymwelwyr yn llifo mewn, yn gwasgaru ar y troiad. Plant yn mynd ar y reids, oedolion yn mynd i’r pafiliwn.
Mam yn stopio i siarad efo rhywun bob eiliad. Y plentyn yn llusgo Mam ymlaen hefo geiriau Mam yn mynd i nunlle.
Dyn mewn kilt yn pasio hefo balŵns. ‘Dw i’n meddwl ei fod wedi cael eu dalu i’w wisgo. Mae’n cynnig balŵn i blentyn bach, ond mae’r plentyn yn chwerthin.
Mae’n dechrau glawio, a’r stondinau yn mynd yn llawn. Ond pan mae’r haul yn dod allan mae’r pafin yn llenwi efo pobl siaradus.
Siôn Lynch
Dyn y Walkie Talkie
Mae ganddo walkie talkie yng nghefn ei siorts a clipboard yn ei law. Yn hoffi llyfrau (achos gwelais o mewn siop lyfrau). Mae ganddo spectol haul ar ei ben, ac mae’n cefnogi’r All Blacks. Ac mae’n hoffi genethod efo gwallt melyn…
Tomos Owen Davies
Dyma ambell lun o'r diwrnod:
