
SGWAD EISTEDDFOD 2010
Sgwad yr Eisteddfod 2010
Prynhawn dydd Iau yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd daeth aelodau o Sgwadiau 'Sgwennu ledled Cymru at eu gilydd i dderbyn gweithdy ysgrifennu creadigol gyda Sian Melangell Dafydd. Dyma eu gwaith:
Deffrodd Hywel wrth i ddŵr ddyrnu ei ben. Roedd dynnion mewn siwtiau oren yn sefyll ar ochr uchaf y waliau concrit ar ochr y byncyr fel gwelodd Hywel wrth i’w lygaid ddod i arfer gyda y golau o’r haul uwchben.
Roedd olew yn y dŵr yn adlewyrchu fel enfys wedi troi yn ddrwg. Aroglau o ddiesel a mygau oedd yn yr awyr rhyfedd. Teimlodd Hywel y dŵr oer hyd at ei benglin.
Roedd y dynion yn gafael yn dynn ar y pibellau dŵr ac roedd yn chwydu allan y dŵr. Yn amlwg, nid oedd neb yn ei glywed na ei weld! Edrychodd o’i gwmpas a gwelodd BEIRIANNAU mawr ar fariau dur cadarn. Roedd rhyw fath o ffactori yno.
Roedd Dagrau o baent glas ar y waliau fel blotiau inc ar bapur. Ta waeth, roedd y dŵr yn dal iddod am ei ben. Gwaeddodd “HELP” ddegau o weithiau ond NID oedd neb yn ei glywed.
Roedd yn RHAID i Hywel Ddianc.
Gan Steffan Williams
Anobaith
Dihuno mewn bywyd oer, di-enaid,
Neb yno, dim ond blur cysurus yn borfa llwyd,
Llygaid llawn ofn, fel bwystfil creulon,
Yn barod am fywyd du, yn barod i dorri.
Rwy’n crynu, ac mae ias yn rhedeg i lawr fy nghefn,
Ond rhaid bod yn ofalus.
Teimlo’n rhwystredig, methu dianc o greulondeb y bywyd hwn.
Heb ffrind, a’r iâ sydd i fod mor brydferth
Yn fy ngwynebu yn hyll
Damwain oedd y bywyd hwn.
Mae fy ngobeithion yn disgyn,
Dwi ar fy mhen fy hun,
Neb yn barod i helpu,
Popeth tu-chwith, y tu fewn, a’r tu allan.
Dwi wedi cael digon ar y bywyd hwn,
Dwi wedi cael digon o fywyd
Mae fy mywyd yn torri
Siom yw fy mywyd, dwi’n gadael …
Gan Nia Mererid Eyre
Y Fo
Deffro yn yr oerfel distaw,
Y mwd a’r eira yn creu’r llawr creulon.
Yr awyr yn liain gwyn rhewllyd.
Fy ngolwg wedi mynd yn wallgof.
Fy llygaid camera di-ffocws.
Fy nghoesau coch.
Fy mreichiau llipa.
‘Helo!’
‘Help!’
Y fo.
Pwy ydi o?
Ei gorff pell yn trio dianc.
Y coed yn gewri yn aros amdano.
Mae’n troi rownd, ond mae ei wyneb yn
aneglur. Dim ond siapiau ar wyneb crwn.
Lle ydw i?
Pwy ydw i?
Pam fy mod mor drist?
Pam oes rhaid i hyn fod?
Pam, byw?
‘Oi!’
Methu gweld dim
Mae’n rhedeg oddi wrthaf fi.
‘Be dwi di neud?’
Methu codi.
Ddim isio.
Gorwedd, Gorwedd.
Cysgu, Cysgu.
Crio, crio
Pam, be, pwy?
Pam fy mod wedi deffro yn yr oerfel.
Yr oerfel distaw
Be dwi di neud.
Gan Joseff Owen
Deffrais bore ‘ma yn blastars i gyd. Roeddwn mewn poen, roeddwn yn teimlo fel yr oeddwn newydd gael fy hitio gan forthwl ar fy mhen. Roedd y bibell ddŵr yn gollwng ar fy mhen, a’r dŵr yna yn fy wneud yn oer. Gwelais rywbeth yn symud yn y gornel, roedd o’n edrych fel llygoden. Gwaeddais nerth fy mhen, yn a clywais y drws cefn y clepian. Aroglais arogl hen ac anifail wedi marw. Teimlais fel ffwl, roeddwn wedi ymddiried yn y dyn ofnadwy. Gobeithiais mai breuddwyd yr oedd hyn i gyd.
Roedd eiliau’r ddynes yn disgyn a’i chorff yn gwanhau.
Gan Alys Haf
Ceridwen a
Tu fewn yn gweld, Gwion
yn gweld y perygl Bach
anifail, un arall,
trawsnewid o’r tywyllwch
Ofn sy’n fy nharo
dwi ddim yn gallu gweld
Dim ond llygaid
melyn, mawr a llawn dagrau
Naws oer a chas o gwmpas.
Iâr wen yn agosai.
Mae’n chwilio,
am beth ‘sgwn i?
Dwi’n gweld y iar yn bwyta.
Y tywydd yn newid
y mae’r glaw yn disgyn
Fel dagrau Gwion Bach
Gan Gwenno Evans
Byd breuddwydiol, perffaith,
blodau o bob lliw a llun
coedwig rhyfeddol fel
gweithiennau.
Byd y tylwyth teg
yn freuddwydiol fythgofiadwy
fy mreuddwyd i.
Ond pam rwyf yn ddigalon
deffro yn fy myd perffaith
dwi’n byw mewn byd gwahanol
byd arall
un a allaf alw’n fy hun
sut allaf fod yn drist
rwy’n ddigalon
naws unig heb neb
i droi ato.
Gan Gwenllian Mair Jones
Deffrodd Glyn mewn ystafell dywyll, a heb fywyd na enaid. Teimlodd fel ei fof yn disgyn i uffern. Roedd y lle yn garchar twfn, bron 8 troedfedd, a thrist ogerwydd ei fod yn dywyll, tawel a lle unig. Teimlodd fod y lle yn cau i mewn arno. Roedd e fel bod yr ystafell yn cymysgu gyda bywyd bob dydd ond heb ddisgyrchiant. Hedfanodd Glyn o amgylch y lle, ond hefyd teimlodd yn siomedig gad’i hun. Roedd yn teimlo’r rhwymun yn gwasgu’n galed am ei ben.
Yn araf bach roedd eira yn dod ar lawr, roedd golau llachar yn dod o ochr yr ystafell, roedd y tymheredd yn gostwng, a roedd y waliau yn diflanu yn araf iawn.
Dyma beth oedd gwir uffern i Glyn.
Gan Dylan Nicholas
Deffrais mewn ystafell dywyll
Ddu.
Doedd neb yn yr ystafell,
Ond un menyw dal,
A rhwymau ar ei phen.
Roedd hi’n edrych fel ysbryd,
Yn dawnsio mewn byd llawn hyd,
Blanced o thristwch gwyn
Oedd yn gorchuddio’r llawr.
Mae hi’n teimlo’n unig
Wedi dychryn, yn poeni
Beth fydd y person nesa’n
dweud amdani,
Byddan nhw’n gwneud sbri
am ei phen hi.
Byd llawn tywyllwch yw ei byd hi.
Byd ni wyddwn ni am.
Rwyf wedi teimlo ei phoen.
Ac rwy’n gobeithio rhyw
ddydd bydd hi’n hapus.
Gan Mari Williams
Y Daith
Deffrais o’r cwml llaith, o’r diwedd roedd realaith wedi dychwelyd i’m byd. Prin oedd yr eiliadau hyn, gan fod casineb a temptasiwn yn ei ddinistrio.
Casineb tuag at fi fy hun, y fath gwilydd. Dyma’r eiliadau sy’n brifo, y rhai sy’n debygol o’m lladd.
Dyma’r eiliadau ble mae’r meddwl yn tueddu i grwydro. Crwydro yn ôl i I wynebau y rhai rwyf wedi eu gwasgu i ddim ond llwch.
Dwi’n crynu wrth sylwi at y byd tu chwith allan. Yr eira siarp yn meddalu trwy’r waliau, yn ysu i signo y daioni o’r daith.
Mae’n fy ngwylio gan greu rhyw deimlad anesmwyth. Wrth i’m anadl gyflymu dechreuai’r creadur arllwys trwy’r ffenestr. Clywaf dinclan y gwydr llyfn yn malu’n racs.
Malu i ddarnau miniog marwol.
Rhwymaf fy ngwyneb a’m ngwallt a nwylo. Er mwyn amddiffyn fy nghroen.
“Gad lonydd! Gad lonydd i mi!” sgrechiais gan erfyn ar yr anifel o’m uffern delfrydol.
Llusgaf fy nghorff caeadig ar hyd y llawr, gan geisio dianc.
Rhwygaf fy nghroen, roedd y carped fel papur gwydr.
Does dim dianc o’r gwrthych poenus a greuwyd gan ddyn. Mae’n fy nilyn, ac yn benderfynol o ddymchwel y pedwar wal amddiffynol o ‘ngwmpas, ac yna dymchwel fy myd yn gyfan gwbl!
Gan Lisa Erin Owen Bl. 10, 14 oed
Y Bala
Deffrais, mewn lle ofnus, trist,
lle heb obaith, lle heb fywyd.
Teimlo braidd yn ddryslyd,
mae’r lle hyn yn ddu.
Teimlo yn rhwystredig,
rhaid i mi amddiffyn fy hun.
Y lle heb sôn am olau,
mae heb enaid ac yn llawn ofn.
Mae’r bywyd hyn yn sal,
pethau yn cau i fyny.
Eisiau rhedeg i ffwrdd,
yn bell bell cyn i fy nghalon dorri!
Gan Miriam Hedd Williams
Byd Map
Deffrais gyda arogl cryf pydru a te. Agorais fy llygaid, ac edrychais ar yr amgylchedd. Roedd popeth yn rhyw liw hen felyn pi-pi, ac efallai mae fy nychymyg oedd o, ond roedd popeth yn edrych fel papur trwm. Roedd y ddaear i gyd fel croes eliffant, a’r haul yn belen bapur wedi ei sgrynsio’n fân, a’i daflu’n bell i’r awyr. Yna sylweddolais bod sgribls inc ym mhobman ac wrth edrych yn agosach, dyma fi’n gweld eu bod yn ffurfio geiriau fel:- ‘Gwynedd’, ‘Caernarfon’, ‘Bala’, ac roedd mynydd melyn mawr ro’n i’n ei adnabod – ‘Yr Wyddfa’. Dyma fo’n cymtyd rhai eiliadau i mi sylweddoli beth oedd hwn. Map. Ro’n i wedi deffro mewn hen fap. Sgrechiais. Dechreuais banicio. Dydi hyn ddim yn gallu bod! Mae hyn y wallgof! Hollol wallgo’! Wedyn, dyma fi’n teimlo diferau glaw ar fy wyneb, dagrau anferth yn sblasio’r hen bapur. Yn sydyn, dyma’r ddaear yn ysgwyd o dan fy nhraed, fel daeargryn. Wrth gwrs, mae dŵr yn meddalu papur! Rŵan ro’n i wir yn poeni. Beth sy’n mynd i ddigwydd i mi ar ôl i’r holl fap ‘ma feddalu? Clywais y sŵn crynsio dychrynllyd wrth i’r byd Map ddisgyn i ddarnau. Syddais i mewn i’r papur wrth i mi gael golwg olaf o’r byd unigryw.
Deffrais ac edrychais ar yr amgylchedd. Fy llofft oedd o. Breuddwyd oedd y cyfan! Gwenais. Troiais fy mhen at y bwrdd bach wrth ymyl fy ngwely i sbio ar y cloc pan daliodd rywbeth fy llygaid. Ar y llawr, yn hen ac yn felyn a crychiog, roedd y map.
Gan Megan Hunter
Brringgg! Brringgg! Canodd y cloc larwm yn uchel. Rholiodd Cati trosodd, gyda’i braich allan i fwrw’r botwm. Yn anffodus, rholiodd yn rhy bell, a cwympodd allan o’r gwely gyda bwmp. “Dyna od.” Meddyliodd gan rwbio ei phen. “ Mae’r gwely yn llai nag arfer. Ac roedd y cloc larwm yn gwneud y sŵn anghywir.” Yna agorodd ei llygaid yn iawn, a neidiodd. Doedd hi ddim yn ei hystafell wely ei hunan! Rhwbiodd ei llygaid. Roedd rhywbeth yn gyfarwydd am yr ystafell, gyda’r gwely pren, a’r cwilt lliwgar, a’r ddesg gyda lamp fach binc, y lle tân, y mat medal a’r gadair foethus. Doedd yr ystafell yn bendant ddim yn ei thŷ hi, felly lle roedd hi wedi ei weld o o’r blaen? Edrychodd Cati allan o’r ffenest. Roedd hi’n edrych allan ar “y lle celf” yn yr Eisteddfod! Ond y tro hyn, roedd e’n anferth, o leiaf cant o weithiau yn fwy na phan oedd hi wedi mynd y diwrnod blaenorol! Yna sylweddolodd lle roedd hi. Roedd hi mewn un o’r darnau celf! Roedd Cati’n cofio mwynhau edrych ar yr arddangosfa, ond hwn oedd ei hoff ddarn. Roedd fel tŵr uchel gyda tŷ ar y top. Cofiodd edrych ar yr ystafelloedd bach, a’r manylion perffaith. Pryd hynny roedd hi’n dychmygu am fyw ynddo. Ar y pryd roedd hynna’n syniad neis, ond nawr doedd Cati ddim mor siwr. Nawr roedd hi eisiau mynd yn ôl i’w thŷ ei hunan! Cododd ar ei thread. “Sut ydw i’n mynd i fynd adre’?” Meddyliodd. “Wel, ddim drwy aros yma.” Atebodd ei hunan. Dyma hi’n mynd allan o’r ystafell, ac edrychodd o gwmpas y tŷ, yn edrych am le i ddianc, ond roedd pobman yn rhy uchel. Yna, ffeindiodd Cati’r drws blaen. Roedd ysgol yn arwain i lawr. Dechreuodd Cati ddringo i lawr, ond yna sylweddolodd ei fod yn gorffen hanner ffordd i lawr i’r llawr. “ Wel, sut MAE mynd allan te?” Meddyliodd Cati. Yna stopiodd. “A sut ddes i mewn?”
Gan Erin Gruffydd
Deffrodd mewn byd papur. Roedd y papur yn llawn llinellau lliwgar a gridiau glas. Roedd cyfeirnodau ar yr ochr. Beth yw’r papur hwn?
Yna edrychodd am rhywbeth i’w thywys o gwmpas y map dieithr. Roedd y llawr yn arw dan draed fel carped o ysgall, dim byd fel papur ‘sgwennu. Teimlodd y llawr garw yn pigo ei thread, ac yna llawr llyfn fel papur Newydd.
Roedd hi’n teimlo’n ddryslydyng nghysgod y lympiau melyn, wedi eu staenio gyda bagiau te. Roedd y papur trwchus yn anwastad, fel tirlun yn ei hun. Mynyddoedd, meddyliodd.
Troediodd dros y paput llyfn eto, roedd yn gwybod bellach. Roedd yn cerdded ar gae o laswellt yng nghanol y map. Teimlai lygaid yn syllu arni, rhywbeth o’r tu allan, rhywsut.
Cerddodd yn sydyn i ochr arall y map, tuag at wythien waed goch, oedd yn fford yn ei llygaid hi.
Roedd y tirwedd yn edrych fel traeth euraidd. Ond meddyliodd wedyn am y llygaid. Yn syllu ar bob anadl, bob symudiad. Teimlai’n rhwystredig, beth allay ei wneud? Yna, clywodd ffrwydriad mawr, a deffrodd o’r byd papur.
Gan Lois Llywelyn Williams – 12 oed
Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd
