
GWAITH Y SGWAD
Fis Mawrth, daeth Sgwad `Sgwennu Cymraeg Abertawe at eu gilydd am y tro cyntaf i weithio gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Dyma eu cerdd.
Gwawr i Fachlyd
Mae'r gwynt yn dawnsio ar ben y don
A'r dydd yn gwawrio'n newydd sbon.
Mae'r wylan uwch y gwynt yn chwerthin
I'r haul a'r cwmwl y mae hon yn perthyn.
Mae'r môr yn unig ar ei ben ei hun
yn gwylio plant yn tynnu ei lun
Y tonnau'n sibrwd yn ddistaw bach
A breuddwydia'r haul yn yr awyr iach.
Mae hwyliau'r cwch yn siarad o hyd
ac eisiau mynd i bedwar ban byd.
Mae'r hwyliau'n chwifio ataf fi
A'r wylan hapus yn canu fry.
Mae'r blodau'n chwarae'n yr awel rydd
a'r bae yn cysgu ar ddiwedd dydd.
Keiza Rees,
Gareth Streetland,
Harry Viggers,
Katei Vaughn,
Cirwen Sides,
Beth Robart,
Cadi Rhind
