Sesiwn gyntaf Sgwad `Sgwennu Cymraeg Ceredigion gyda Hywel Griffiths

CEREDIGION

Sgwad `Sgwennu Ceredigion

Yng Ngheredigion mae dwy Sgwad Cymraeg ac un Sgwad Saesneg yn cwrdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ac ym Mhentref Bach. Mae’r Sgwadiau yma'n cwrdd yn achlysurol trwy gydol y flwyddyn, ac yn cael eu gweinyddu gan Gill Ogden, Swyddog Celfyddydau, Aberystwyth: ggo@aber.ac.uk a Mair Rees Mair.Rees@ceredigion.gov.uk

Ddydd Mercher, 2 Mehefin, cyfarfu Sgwad `Sgwennu Cymraeg newydd Ceredigion am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd, Llanerchaeron. Wedi trafodaethau rhwng Academi, staff Pentre Bach a staff adran addysg Cyngor Sir Ceredigion, daeth i'r amlwg fod angen Sgwad Cymraeg newydd yng ngwaelod y sir, yn ychwanegol at y rhai sydd eisoes yn bodoli.  Bydd y Sgwad newydd yn ymgartrefu ym Mhentre Bach, ar set y gyfres deledu i blant sy'n dwyn yr un enw. Dymuniad T. Llew Jones oedd gweld Pentre Bach yn dod yn rhyw fath o ganolfan ysgrifennu i blant, felly pa well lle i'r Sgwadwyr feithrin eu doniau. Y bardd Hywel Griffiths a fu'n arwain sesiwn gyntaf y Sgwad.

 Gweithgarwch Diweddar:

21 Mehefin 2011: Bû Sgwad 'Sgwennu Blwyddyn 6, Ceredigon yn cael eu hysbrydoli gan yr awdures Mared Llwyd ym Mhentref Bach yn ddiweddar. Tasg y Sgwadwyr ifainc oedd i ysgrifennu dechrau stori gan ganolbwyntio ar un cymeriad ac un lleoliad arbennig. Cliciwch yma i weld peth o'u gwaith.

 2 Mehefin, 2010: Gweithdy cyntaf Sgwad `Sgwennu Cymraeg newydd Ceredigion o dan arweiniad Hywel Griffiths. Bu'r Sgwad yn gwrando ar hen chwedl o'r ardal cyn dysgu sut i fynd ati i ysgrifennu Hen Benillion.

7 Hydref, 2010: Bu Dewi Pws, Bardd Plant Cymru yn ymweld ac aelodau o Sgwadiau Sgwennu a disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Ceredigion i gynnal gweithdy. Yn ôl eu hathrawes, Mrs Mair Rees, roedd y plant wrth eu boddau! Dyma'r gerdd a gyfansoddwyd gan y plant gyda Dewi:

Cymru

Eistedd yma’n edrych mas
Cymylau gwyn ac awyr las.
Aroglaf gawl cig oen a chennin,
Caws Caerffili a bara menyn.

Clywaf ddefaid ac oen yn brefu
A’r eisteddfodau yn y trefi.
Canaf ‘Hen Wlad Fy Nhadau’
Ond pam ddim ‘Hen Wlad Fy Mamau’?

Dyna beth yw Cymru i fi
Ond beth yw Cymru i ti?

Defaid yn brefu
Slyri yn drewi
Yr Wyddfa’n Eryri
Un dewr yw ein Dewi.

Catrin Finch yn canu’r delyn
Ein daffodil y blodyn melyn.
Mynd am dro i’r hen Lwyncelyn
Gwrando’n astud ar aderyn.