

Arddangosfa o waith Sgwad Gwynedd, Hydref 2009

Arddangosfa o waith Sgwad Gwynedd, Hydref 2009
GWAITH Y SGWADIAU
Fis Ionawr, 2010 bu Sgwad Gwynedd yn ysgrifennu cerdd gywaith gydag Ifor ap Glyn, mewn ymateb i arddangosfa o waith graffiti.
* Noder, os gwelwch yn dda, fod y gerdd isod yn cynnwys gair anweddus.
Cerdd Punk Art
Tasat ti’n rhoi gwn wrth dy ben, gelf
Pwy fasa’n clirio’r llanast?
Daw llais:
Pwy sy’n crio ar fy medd?
Bever mind the Bollocks
Does dim trefn
Ar y drefn ma’r bai,
Daw
Fflach o synnwyr
Sy’n ffrwydro fy nghrefydd
Beth yw tough?
Lipstick ta chwys?
Rhedeg cylchoedd rownd y Byd
Gan geisio heddwch?
Y freuddwyd yn troi’n hunllef wrth
Law y breuddwydiwr.
Y dyfodol ar dwf o derfysgwyr dawnus
Corwynt araf o fwg yn troelli
Fi sy’n deud pwy sy’n ennill
Gwertha dy enaid i’r diawl
A’th wlad i’r rhyfel
We’re all fuzzed and
That’s all folks!
Does dim synnwyr mewn dim byd
Mor rhyfedd a choed ar gae pêl droed.
Fis Hydref 2009 bu Sgwad Gwynedd yn ysgrifennu cerddi gyda'r Bardd Plant Twm Morys, mewn ymateb i waith dawns Cai Tomos yn seiliedig ar y thema 'calon'.
‘Does dim gwell
Na cariad i’w drysori,
Does dim gwaeth,
Na cariad heb angori
Elin Bryn Williams
Dwi’n anadlu fel hwch,
Dwi’n crynu fel deilen.
Fy nghloc yn ticio’n sydyn,
Cyn eich gwynebu chi.
Llio Mererid Owen
Meddwl yn araf,
Mae’r galon yn slofi,
Meddwl yn gyflym
Mae’r galon yn cyflymu.
Alys Fflur
Yn fy nghalon i mae’r nerth
Yma mae popeth sydd o werth,
Yn fy nghalon, y mae ‘ngwên
Gyda nghalon mi dyfai’n hen.
Ceri Elsbeth
Weithia dwi’n crio
Calon yn brifo
Wedyn dwi’n llonni
Calon yn codi.
Pam mod i’n llonydd?
A nghalon yn fy ngheg?
Ma’i di mynd a ngadal
‘Di bywyd ddim yn deg.
Mae rhwbath wedi mynd o’I le,
Dwi’n teimlo yn go sâl,
Pam fod fy nghorff i dal yn iawn
A nghalon i ar chwâl ?
Mae môr fy emosiynau i
Yn waedlif eitha od,
Weithia’n chwyrlio’n gorwynt gwyllt-
Enwedig o flaen genod.
Weithia os ydw i’n oedi,
Mae nghalon yn gwrthod angori,
Does dim ffordd imi
fynd efo’r lli,
‘Di chalon hi ddim wedi toddi.
Robin Williams
Injan dda , calon grêf,
Injan ddrwg, calon galed.
Peth rhyfedd yw’r galon: rhewi y bydd
Gan ofn, neu ofid neu hiraeth y dydd,
Ond weithiau mae’r galon yn dadmer yn llwyr
Wrth drio dweud ‘sori’, a hynny’n rhy hwyr.
Owi Elis
Curo curo, un dau tri
Dyma fy hoff organ i.
Cain Muse
Mae fy nghalon i yn blino
Mae fy nghalon i yn teimlo
Mae fy nghalon i’n brifo
Ond mae fy nghalon i yn llwyddo.
Morgan Williams
Dwi’n anadlu fel y nôs
Yn crynu fel deilen,
Fy nghloc yn ticio’n galed
Cyn eich wynebu chi.
Megan Hughes
Roedd hi’n noson ddu ddu,
Roedd y gwynt yn chwythu chwythu,
Roedd yna gysgod wrth y grisiau..
Neidiodd fy nghalon drwy’r ffenest.
Rory Daly
Mae gan bob un galon
A gwaed yn llifo drwyddi fel afon
Mae ynddi deilmad,
A llawer o gariad.
Elin Cain
Mwydra fy mhen yn dwll,
Parha i wadu’r cyfan,
Mi safa’ inna’n fama’n gwrando
Ar dy ‘ddifri calon’ c’lwyddog.
Lisa Owen
Bu i’n nghalon innau
Galedu pan ar binau,
Ond eto meddalu bydd
Pan gŵyd yr heulwen hi.
Elin Daly
Pwmpio , pwmpio un dau tri,
Calon yn curo dan ofn mor gry’
Y corff cariadus yn cochi,
Dyma’r galon sy’n caru.
Y galon yn tywyllu tristwch
Pan ddiflannodd y person y carwch.
Geiriau cas sy’n brifo’r galon
Wrth i’r dagrau lifo fel ffynnon.
Pwmpio, pwmpio un dau tri
Dyma organ bywyd ti a fi.
Megan Hunter
Y galon sy’n ymateb i gynhyrfu
Mae’n curo’n union fel drwm,
Pan welaf eira ar ben y mynydd,
Mae nghalon mewn cariad.
Alys Hâf
Y galon yw eich injan chi,
I fynd am oriau maith
Ond i fynd 70 milltir yr awr
Rhaid cael cariad ar y daith.
Y galon yw y farchnad stoc,
Yn Efrog Newydd fawr,
Weithiau ar i fyny
Weithiau ar i lawr.
Joseff Owen
Mae cyffro’n dod i’r galon
Pan mae nadolig yn nesau,
Wrth chwarae yn yr eira
Ac agor presantau.
Luned Williams
Sgwadiau yn Eisteddfod Meirionnydd a'r Cyffiniau 2009
Gwahoddwyd holl Sgwadiau Cymru i ddod ynghyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i weithdy barddoniaeth o dan arweiniad Penri Roberts. Aeth Penri a'r criw draw i'r Lle Celf, i dynnu ysbrydoliaeth o'r gweithiau. Yna, aethant draw i babell y Cynulliad i ysgrifennu cerddi mewn ymateb i'r gwaith celf.
Gelert y Ci Ffyddlon
Ef flew yn flew blêr
Rhedai fel milgi
ar ôl ei bel
Ysgwydai ei gynffon llonydd
Disgleiriai ei lygaid fel sêr
A tasa ni'n dweud wrtho am gyfarth
Mi fuasai'n cyfarth yn llon
Daliodd ei bel yn ei weflau
Gan ganolbwyntio'n fanwl
Rhedodd yn ôl at ei feistr
A gollwng y bel wrth ei draed
Gelert y ci ffyddlon
Morgan Williams
Fy Mreuddwyd Celf
Lle mae pawb?
Chwilio'n ofer
Oes yma rywun 'dw i'n nabod?
Cwch budur, brau
Sgrechian am gyfeillgarwch yn wyneb awyr blin
Baglu dros fy nhraed
Taro llawer pren caled
Cwch yn suddo: boddi mewn paent trwchus
Glynu at fy nhamaid o froc môr
fel bwrdd
Beth sy'n arnofio?
Tebot pluog.
Te?
Pysgodyn
Wedyn mewn llyn,
Llyn dail pigog
Mae tai marwol y tonnau tywyll
Cael fy stopio gan argae realiti
Dihangodd fy mreuddwyd celf.
Robin Williams
Rhyfel
Glaw yn taranu
Awyrennau'n sgrechian fel gwylanod ar lan y môr
a bomiau'n gwneud i'r ddaear grynu
Gynnau yn clecian fel bolltau yn cau
Gwaed y milwyr dewr yn llifo lawr y strydoedd
Pobl yn gweiddi am gymorth
a chysgod o'r rhyfel gwaedlyd
Y diwedd – dwy wlad yn dysgu gwers
Does neb yn ennill mewn rhyfel
Carwyn Mathew Roberts
Lluniau'r Fedal Aur
Mynydd mawr du,
Codi'r haul
melyn ar y gorwel
Cymylau sydd gerllaw
Ar y graig mae dringwr
yn aros ers y nos
Dringo, dringo, dringo
i gyrraedd copa'r cawr.
Drych o lyn sydd yno,
ar ben y mynydd mawr
Adlewyrchu'r haul trwy'r dydd
a'ch tynnu chi i lawr i'r dyfnderoedd
Y dyfrodd du a llwyd,
lawr i weld y cerrig a'r pethau hyll
yn y gwaelodion
Yn y gaeaf, niwl,
yn rheoli'r lle i gyd
Ond yn yr haf mae blodau,
Hadau gobaith yn ffynnu.
Alis Huws
Y Bwrdd Hynafol
Pwy lifiodd y coedyn o'i gynefin?
Ei siapio, ei gnocio a'i drin
Ei lyfu â farnais sgleiniog
A'i frifo â bachau blin.
Pwy ddisgwyliodd iddo fagu cyhyrau?
Ar ôl ei dorri o'i wreiddiau
Cynnal hwyliau, mast a llyw
Dal pobl, nwyddau, anifeiliaid byw.
Llam y don yn chwipio
Yn crafangu'r coedyn a'i gripio
Ei chwydu'n aflan ar y traeth glan
Llonyddwch blêr yn gwrthod tanio
Ac ar y traeth mewn t'wllwch blin
Wedi teithio o ddyfroedd y gorllewin
Mae'r broc marw dal yn fyw
Yn hwylio ei hun fel pererin.
Llinos Heledd Roberts
Fe greodd fyd o gardbord
Byd dychymyg
Byd llawn lliw
Bro breuddwydion
Hafan glên
I ffoi rhag poenau bywyd
Ond tu hwnt i furiau'r cardbord
Lle mae'r gath yn gwerthu â#i gwen
Mae byd lle mae crafangau tywyll
yn crafu'r pen
Lle mae oerfel fel mil o gyllill
ac anobaith yn mygu
Nid oes cuddio rhag poenau'r byd
Rhwng waliau tenau'r cardbord ar y stryd.
Elan Grug
Isod mae gwaith a gyfansoddwyd gan Sgwad Gwynedd yn seiliedig ar chwedl Gwion Bach, mewn gweithdy arbennig yng Nglan Llyn gyda'r bardd ifanc Eurig Salisbury. Cafodd y Sgwad y cyfle i berfformio'r gwaith ar lwyfan y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau.
Can agoriadol (ar dôn Plwy Llangywer)
Croeso i deyrnas Tegid
Lle mae y llyn yn awr
I wrando stori hudol
Sy’n para llai na awr,
Mae’n sôn am wrach a chrochan
Ac anifeiliaid lu
Am ddyfrgi, iâr a hebog
Fe wnawn eich swyno chi.
Fel hyn mae’r stori’n dechrau
Roedd gwrach mewn tymer ddig
Ceridwen oedd ei henw
Roedd ganddi fab mawr blin
Ei enw o oedd Morfran
Boi afiach , drewllyd cas
Gwaeddodd ei fam un diwrnod
‘Iesgob, mae isho gras!’
Planhigion Swyn Ceridwen
Gwanwyn, Haf , Hydref, Gaeaf,
Bob tymor yn ei dro,
Y rhodiai Ceridwen dros bant a bryn
Yn chwilio,
Chwilio am y blodau,
Rhestr o ddeunyddiau organig
I’w cael o’r siop agored
Caeau Meirionydd.
Afal , asgell, Eirin Gwlanog a Chelyn,
Dant y Llew, Cynffonau Wyn Bach
Lafant, Lili wen Fach
Bysedd y Cŵn a Drain du a
-mymryn, efallai o wymon.
Llygad llo, Llygad Doli, Llydan y Ffordd,
Botwm Crys, Cennin Pedr, Clychau Gog
Ac un neu ddau o betalau gelysg
A be well i’w ychwanegu na Blodyn Menyn,
Cyn ei droi unwaith i’r Dde
A dwy waith i’r chwith,
Ei ysgwyd a’i droelli,
Ei rewi a’i ferwi,
A bloeddio fel baban
Udo fel ci
A phoeri ddwywaith
Cyn tollti dŵr môr yn un lli.
Gwanwyn, Haf, Hydref, Gaeaf
Un blwyddyn a diwrnod
Y grochan yn barod
A Morfran yn barod
Y Byd yn barod.
Robin Bryn Williams
Gaeaf
Bysedd miniog yn crafangu’r tir
Barrug yn llyfu gwair y bora
Y dyddiau’n rhy fyr a’r nosau’n rhy hir
Min oer y gwynt yn chwythu, tan ddrysau
Fflamau’n dawnsio yn felyn , coch a glas
Crochan Ceridwen yn ffrwtian yn braf
A bysedd Gwion tyn prysur troi’n las
Wrth wylio y tân a breuddwydio am yr Haf.
Grug
Gwanwyn
Cylch bywyd yn egino
Y coed a’r planhigion yn blaguro,
Brefu diniwed yn boddi’r llonyddwch
Blodau’r cloddiau’n fôr o harddwch.
Yfory, Ceridwen
Fe gei anghofio poeni am Morfran
Gwireddu dy obeithion,
Y tân o dan y crochan yn gorffen.
Llinos
Haf
Tymor y blodau
a'r haul uwch ein pennau
Tymor y paill
yn cosi ein trwynau
Tymor yr adar
ar coed yn llawn dail
Tymor y defaid
Au gwlan mewn 'pile'
Tymor cynhaeaf
ar gwair yn ei gasglu
Tymor big bels
y tymor dwi'n hoffi.
Siwan Elenid
Y Pair yn Berwi
Bybls yn bobman
Ochrau chwilboeth
Gwion yn troi, troi, troi.
Fflamau’n ffrwydro
Gwreichion yn hedfan
Gwion yn cymysgu, cymysgu, cymysgu.
Swyn fel sleim gwyrdd
Troelli a llithro
Gwion yn cwyno, cwyno, cwyno.
Blwyddyn ar ben
Llosgi, fflachio, tasgu
Gwion yn barod, barod, barod.
Mared Edwards
Tri Diferyn
Tri diferyn gwych,
A ddaeth a llawenydd i un–
A thristwch mawr i’r llall
Ar ôl cynllunion hir a dwys,
Fe ddaeth popeth i ben
Oherwydd gobaith Ceridwen
A gwylltineb ei mab,
A gostiodd flwyddyn o waith di-ben.
Pan ferwodd y gymysgedd
Aeth Ceridwen am nap
Gan adael rhen Morfran
Fel dipyn o jarff;
Gan fod Morfran yn dipyn o wali
Fe symudodd yn syth
Mewn dicter a ffoli.
Pan neidiodd tri diferyn allan
Doedd dim sôn am Morfran,
Dim ond Gwion bach
Yn sefyll yn y lle iawn-
Ar yr amser iawn.
Daeth pob dim yn glir
Doedd dim yn gyfrinach,
Doedd dim rhy gymhleth
Gwion bach y gwas bach dwl
Nad oedd mwyach
- yn ddwl.
Mewn peryg yr oedd
Deffro wnaeth y wrach,
Yn flin a gwyllt.
Neidiodd o’r ciando
Am waed rhen Gwion
A daeth wyneb yn wyneb
A’i hunllef waethaf.
Elin Williams
Blaidd
Mae ei llygaid yn culhau
Ai’i llam yn lledu.
Mae’r glafoer gwaedlyd yn casglu
A blew hir o’i chorff yn tasgu
Ar hyd cynffon trwchus ddu
A gosgeiddrwydd merch a fu
Yn diflannu’n raddol araf
Ac yna daw y grafanc
Mileinrwydd pur yn ei gwaed
Wrth symud yn chwim ar ei thraed.
Mae’r sgwarnog yn baglu
Yn troi a straffaglu
A hithau yn ei phŵer gref
Yn llamu am ei boenus lef
Ymestyn, ymestyn am ei wala
A rhythm blêr yn chwarae’n ei ?
Ond yna mae’r sgwarnog yn troi am y don
A’i wyneb hir blewog yn troi yn un gron
Wrth wylio ei gorff yn troelli yn dynn
Mae’n gwylio eog yn nofio yn synn
Mae siom gwyllt yn llenwi ei cham
Ac yna…….
Lea Shakespeare Huws
Gwyniad
Neidiodd ei galon
Fe lamodd i’r afon
Ei groen yn troi’n gennog
A’i wddw’n dagellog
Ei goesau’n uno
A chynffon yn ffurfio
Ond ofn sy’n ei yrru
Ymlaen bron heb sylwi
Ar ryfedd fyd newydd
Tan ddŵr yr afonydd,
Grug
Dyfrast
Rhedaf at lan yr afon
Be gaf fod ?
Pysgodyn? Na dyfrgi!
Llithraf yn llyfn
O’r tir i’r tonnau
Dwi’n nofiwr chwim
Sleifiaf allan gyda’r nos
I hela haig o bysgod
Ffwr fel carped cyfoethog brown
Cynffon fel dystiwr gwe pry cop
Llygaid fel clustdlysau perl
‘Dwi’n dod Gwion!’
Mirain Ebrill
Ehedydd
Y tagellau llyfn yn llithro o’r dŵr,
Ffrwydriad esmwyth o blu crand
Yn tarfu’n sydyn ar awyr ddistaw, ddiflas
Cynffon a phig yn plymio a chwifio rhwng y cymylau.
LLafur adenydd chwim
Yn gweithio’n galed er mwyn gweld
Gorchfygaeth o’r Walches gref –
I mewn i’r hadau, Ehedydd!
Llinos
Hedyn
Mae’r hebog yn agosau, yn closio i fewn at ei brae diniwed-fi-yr ehedydd.
Rwyf i’n clywed ei adenydd yn curo yn erbyn ei gorff. Beth bynnag yr wyf yn ei wneud mae’r wrach yn fy nilyn.
Dacw fferm a phentwr o geirch yn ei chanol. Dyma fy unig gyfle hefo’r hen Geridwen yna. Rwy’n plymio i lawr tuag at y gwenith melyn ac yn teimlo fy nhraed yn crebachu, fy nghroen yn caledu , a’m pen yn suddo i fewn i’m corff. Mae fy mhlu yn diflannu ac fy adenydd yn mynd yn llai. Erbyn imi fynd dros fy mhen i’r pentwr ceirch, dwi wedi trawsffurfio yn gyfangwbl i hedyn bach sgleiniog yng nghanol miliynau o geirch.
Ond och a gwae , y mae’r hen Geridwen glyfar yna wedi newid yn glamp o iâr fawr ddu, ac yn stwffio ei hun efo’r gwenith. Does dim ffordd allan o hyn, mae’r wrach am fy mwyta i. Y mae’n gweithio ei ffordd tuag ataf ei chrafangau meinion yn tapio rhythm ar y llawr caregog. Mae ei phig yn agor drosof a …..tywyllwch.
Iestyn
Iâr
Iâr fawr goch
Yn chwilio am hedyn
Bwyta a bwyta
Poen bol fydd wedyn
Fy mhen yn mynd fel io- io
Yn wyllt a phenderfynol
Llowcio bob tamaid
Heb feddwl am droi nôl
Yr hadau wedi’w bwyta
A’m stumog i’n llawn
Fe af i’n ôl adre
A gorffwys am y pnawn
Teimlo fatha chwydu
Dwi wedi cael hen ddigon
Peth anodd iawn yw cysgu achos
Yn fy mol mae Gwion.
Siwan Elenid
Y Babi (Ymson Ceridwen)
Mae o’n bictshwr! Bocha coch angylaidd, a’r llygaid glas fel yr awyr gogoneddus ar ddiwrnod clir yn yr haf. Dim byd tebyg i Morfran! Diolch byth! Penfelen ‘di hwn, ddigon o sioe. Pan welir pobl ef mae;n anodd peidio rhoi fyny i’r ysfa i ddweud “Cwtshi cw!”
A phan mae’n gwenu, a dangos ei geg heb ddannedd, mae teimlad cynnes yn dirgrynu yn feddal yn fy mol, ac yn achosi gwen enfawr i lenwi fy wyneb.
Ond trodd ataf heddiw gan wenu’n slei a dweud; “Cofio fi?” Edrychais arno mewn dychryn, ceisiais ddweud rhywbeth, unrhyw beth, ond daeth dim byd allan.
Y fo! A finnau wedi meddwl fy mod wedi cael gwared ohono! Yn amlwg, doedd hynna ddim yn wir. Er, wedi meddwl, roedd yna rhywbeth bach wedi bod yn bwyta fy nghydwybod ers i mi lowcio Gwion yn y buarth. A phan wnes i ddarganfod fy mod yn feichiog, roedd darn pitw ohonof yn meddwl..ame..tybed?
Credais mai swyn wedi mynd yn anghywir rhai ddiwrnodau ynghynt oedd wedi achosi i mi syrthio’n feichiog. Ond pan siaradodd y sinach, gwyddwn yn syth!
A finnau wedi ei fwydo, ei garu a’i drin fel yr unig beth pwysig yn fy mywyd. Yr unig reswm i godi yn y bore. Roedd y ‘peth’ wedi fy nhwyllo. Trodd cariad gofalgar yn gasineb pur.
Gwyddwn fy mod am wneud iddo dalu am hyn, talu’n llawn. Trwy’r gosb eithaf. Yr unig ffordd allwn i sicrhau bwyd heddychlon i mi fy hun, heb neb yn torri ar draws fy swynion a syniadau gwyllt, oedd lladd Gwion. Mewn unrhyw ffordd posib. Ddim yn gyflym, mae’n rhaid iddo deimlo’r boen amrwd yn ei gorff bychan. Mae’n rhaid iddo gael llofruddiaeth hir ac annioddefol.
Ond.. dw i’n ochneidio, achos fedra i ddim. Er mod i’n gwybod yn iawn pwy ydi o! Y Gwion cythryblus, yr un na alla i ddioddef, yr un wnaeth fy ddwyn swyn Morfran. Y swyn a fyddai’n ei wneud yn ddeallus tu hwnt. Ond y babi yma dderbyniodd y swyn arbennig, yr un a wnaeth ef y person mwyaf deallus yn y byd! Nid fy mabi bach go-iawn, yr un oedd wir angen y swyn, i wella ei fywyd a’m bywyd innau.. Fy Morfran!
MI fydd rhaid i Morfran gael gwared o Gwion rhyw ffordd neu gilydd. Pe byddwn i’n gyfrifol am y dasg, ni fuaswn yn gallu edrych arnaf fy hun yn y drych. Ni fysai fy enaid yn gallu bod yn fy nghorff, gan wybod beth y byddai `nwylo wedi ei wneud.
Galwaf ar Morfran mewn ychydig, a dweud wrtho fod gen i rywbeth i’w ofyn iddo.
Lisa Owen
Ymson yr Afon Ddyfrdwy
Mae haul cynnes euraidd wrthi’n machlud ar fy nyfroedd. Mae’r ewyn sy’n pendwmpian ar fy nhonnau heddychlon wedi’u tanio gan lewyrch olaf yr haul.
Rwy’n gwylio’r lliwiau’n lleddfu i mewn i las y môr, melyn, aur , pinc, yn dawnsio’n chwareus ar wyneb sidanaidd fy nŵr – ac yna daw coch i waedu i mewn i’r glesni. Mae’r munudau prin yma yn werth y byd imi. Mi ddof yma dim dim ond ar ôl diwrnod melys o haf, i wylio’r machlud. Heno, teimlaf hen atgofion yn cymylu yn y dyfnderoedd tywyll. Ia dwi’n cofio noson fel heno bu fflamau’r heulwen yn cynnau’r gorwel canrifoedd yn ôl oedd hi. Ar ddiwrnod olaf y profiad rhyfeddaf imi gael erioed. Newydd redeg heibio’r Bala o’n i, wedi bore helaeth o hwyl yn rhuthro drwy’r wlad. Arhosais am eiliad ymysg ewyn wedi ei ddal mewn brwyni rhyg.
Wedi gorffwyso am enaid dechreuais droi yn ôl am yr afon – pan sylwais ar rhywun wrth ochor y lan yn straffaglu trwy’r brwyn. Llifais ato, ac edrych i fyny.
Uwchben roedd bwystfil o ddyn yn dal bwndel mewn sach ledr. Nawr o bob creadur , dynion, yw’r rhai mwyaf barus erioed. Ond dychrynais o weld wyneb hwn. Bwystfil yn wir, Roedd casineb yn ei lygaid ac roedd ei wyneb ymhlyg cysgod tywyll erchyllterau.
Gollyngodd y bwndel at fy nŵr – estynnais amdano’n eiddgar gan ymestyn bysedd dyfrllyd, ac yna mewn syndod, clywais gri baban. Lapiais freichiau o ewyn o’i gwmpas. Gyda’r tynerwch mwyaf fe gariais ef ar hyd y daith. Fe warchodais ef wrth blymio i lawr pob rhaeadr ac arweiniais ef ar hyd pob nant. Daeth yr eog i nofio heibio ac fe dywysant y bwndel gwerthfawr ar hyd milltir o’r daith cyn llamu i ffwrdd a thasgu gwreichion o ddŵr ar eu holau, eu crwyn sgleiniog fel enfysau bychain.
Yn wir daeth y dyfrgi i sbecian arno trwy’r brwyn cyn troi yn osgeiddig am adref.
O’r diwedd cyrhaeddais y mor. Edrychais o gwmpas am loches i’r bychan – a gwelais griw yn pysgota. Llifais atynt ac yn bwyllog rhoddais y baban mewn rhwyd. Gollyngais fy ngafael arno , a gwr ifanc yn ei dynnu i fyny. Edrychais at ei wyneb yn ofalus ac yn ei lygaid trist, gwelais syndod a llawenydd a byrlymai i ffwrdd.
Mae’r haul wedi hen ddiflannu ac mae’r sêr wedi codi yn eu le, yn fframio lleuad fel ffrâm ddeiamwntiau gwerthfawr. Wrth imi fyfyrio mae’r tonnau’n lapio’r lan yn ysgafn, ac rydwi’n gwybod mai fi, ysbryd yr Afon Dyfrdwy yw’r unig un all adrodd hanes Taliesin fel llygad dyst. Tybed a oes rhywun wedi sylwi ? Gwenaf a throi nol tua Eifionydd.
Lea Shakespeare Huws
Elffin yn darganfod y babi
Elffin y diawl diog dos i ga’l job
Merchetwr o fri a gamblwr chwit-chwat,
Gwallt felt as wair a choesau fel rhiwbob,
Coda oddi ar dy dÎn y twmffat,
Cer at y gored ar ddydd Calan Mai
Gwertha’r pysgod i ddifa dy ddyled
Bydd cannoedd o bysgod cyn troiad trai.
Felly aeth Elffin draw at y gored
Wel dyna siom, doedd dim pysgod i’w cael
Ond O! Beth yw hwna? Basged dila ..
Cododd y fasged er teimlo’n wael,
Gwelodd fabi hefo’r talcen dela’
O, Taliesyn, mae dy dalcen di’n ciwt
Dow, diolch ti wa’, mae’r enw ‘na’n biwt!
Grug a Llinos
Y gân olaf (ar dôn Plwy Llangywer)
Ffarwel i Deyrnas Tegid
Lle mae y llyn yn awr
Cawn orffen stori hudol,
Mae’n amser cau y clawr,
Ffarwel ichi gyfeillion
Cewch fynd i grwydro’r maes
A gweld yr holl stondinau
A gwyr mewn ffrogiau llaes.
Fan hyn mae’r stori’n gorffen
O leiaf am y tro,
Oherwydd bydd y geiriau
Yn dawnsio yn y co’
A chofiwch chi wrth droedio
Meirionydd yn un haid,
Bod yma hud a lledrith
A hanes dan eich traed.
Cywaith.
