GWAITH Y SGWAD

Sgwadiau yn Eisteddfod Meirionnydd a'r Cyffiniau 2009

Gwahoddwyd holl Sgwadiau Cymru i ddod ynghyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i weithdy barddoniaeth o dan arweiniad Penri Roberts. Aeth Penri a'r criw draw i'r Lle Celf, i dynnu ysbrydoliaeth o'r gweithiau. Yna, aethant draw i babell y Cynulliad i ysgrifennu cerddi mewn ymateb i'r gwaith celf. 

Y Ddafad
Bu farw ers talwm
Lladdwyd gan ddyn
Aros yn stond
Fel cerflun o garreg
Tyllau du
Yn eich gwylio chi
Tyllau du yn tynnu eich sylw
Roedd y llygaid hyn yn fyw ers talwm
Bu farw ers talwm
Lladdwyd gan ddyn
Dyma stori drist yr hen ddafad ddu
Owain Jones

Y Llygaid
Mae'r llygaid yn symud o'r chwith i'r dde
Yn gwibio fel llygoden rownd a rownd
Mae'r llygaid yn stopio yng nghornel y llygad
Teithiwr yn teithio'r byd
Mae'r llygaid yn cau, mae'n stopio symud
Does dim golwg o'r glas, gwyn neu'r du
Mae'r llygaid yn stond am oriau nes…
Mae'r llygaid yn symud o'r chwith i'r dde
Teithiwr yn teithio'r byd
Owain Jones

 Ray Gravell
(Manon a Gwennan, merched Ray Gravel ar y cae rygbi
yn ystod y Gamp Lawn, Mawrth 15, 2008)

Mis Mawrth y breuddwydion
A Colosseum llawn arwyr yn aros
I'r Vesuvius coch a glas
Ffrwydro ar eu dyfodiad

Un llais yn rhuo anthemau
A'u hatsain yn codi'r to caeedig
Ac yn esgyn i ddiddanu'r hen dduwiau
Yn treiddio i'r twnnel
I galon y gelyn
I gryndod eu greddfau

O'r gell guddiedig
Daw'r gwron balch
I arwain yr ornest
Fflamau'n dyheadau'n daer
I ddeffro pob draig
I danio pob ysbryd
I ddiffodd pob gobaith glas

Ond o ganol y cewri cyhyrog
Yng ngwawl arian y Goron a'r fflam
Daeth dwy
Ac yn eu gwên
Cysgod Arwr arall
Arwr cwsg
Y mwyaf oll.

Ac yn eu camau bach
Ar lwyfan y llwyddiannau lu
Mae mawredd eu teyrnged
Urddas eu presenoldeb
Dewrder eu heneidiau diniwed
Yn fwy na'r un dim
A phob calon yn meddalu
A phob atgof o'u tad tirion
Yn ail gynnau pob fflam

Yn deyrnged i Ray
Yn ddiolch i'r ddwy
Dyw colli ddim yn bosib.

 Sgwad Sgwennu Dinbych, 2008