GWYNEDD

Sgwad `Sgwennu Gwynedd


Mae Sgwad `Sgwennu Gwynedd wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers blynyddoedd. Mae'n Sgwad unigryw gan eu bod yn gweithio'n ddwyieithog, bob yn ail sesiwn.
Dewisir yr aelodau pob dwy flynedd, pan fyddant ym mlwyddyn pump neu chwech, a byddant yn parhau'n aelodau nes eu bod yn bymtheg oed.
Gweinyddir Sgwad Gwynedd gan Gwen Lasarus James, Swyddog Hybu Llên Gwynedd. Gellir cysylltu â hi trwy e-bostio: GwenLasarus@gwynedd.gov.uk                   

Gweithgarwch Diweddar:


Awst 2009: Perfformio barddoniaeth yn seiliedig ar chwedl Gwion Bach yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, wedi dau weithdy gyda'r bardd Eurig Sailsbury.


Awst 2009: Gweithdy gyda’r bardd Penri Roberts. Cafodd y Sgwadwyr gyfle i ysgrifennu cerddi mewn ymateb i’r gwaith yn y Lle Celf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau.


Hydref 2009: Gweithdy gyda Bardd Plant Cymru, Twm Morys, yn Galeri, Caernarfon, mewn ymateb i  brosiect dawns Cai Tomos, 'Calon'. Gwahoddwyd aelodau'r Sgwad i ddarllen eu gwaith ar raglen gelfyddydau Radio Cymru, 'Stiwdio'.


Ionawr 2010: Bu Sgwad Gwynedd yn ysgrifennu cerdd gywaith gydag Ifor ap Glyn, mewn ymateb i arddangosfa o waith graffiti.

Mawrth 2010: Grug Muse, aelod o Sgwad `Sgwennu Gwynedd yn dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Ysgrifennu Stori Fer Kate Roberts. Rhowch glic yma i ddarllen y stori.