
SIR DDINBYCH
Sgwad `Sgwennu Sir Ddinbych
Mae cyfanswm o bedwar Sgwad yn Sir Ddinbych – Sgwad Cymraeg cynradd ac uwchradd, a Sgwad Saesneg cynradd ac uwchradd, ac maent yn cwrdd yn dymhorol, fel rheol yn y llyfrgell.
Un o drefnwyr Sgwad Sir Ddinbych yw Bethan Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Darllen, Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych: Bethan.hughes@denbighshire.gov.uk
Gweithgarwch Diweddar:
Mai 2009: Gweithdy gyda Beverly Naidoo (Sgwadiau Saesneg).
Awst 2009: Gweithdy gyda’r bardd Penri Roberts, mewn ymateb i’r gwaith yn y Lle Celf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau.
Tachwedd 2009: Gweithdy gyda Malachy Doyle a Catherine Johnston (Sgwad Saesneg) a Haf Llewelyn (Sgwad Cymraeg)
