SIR FON

Sgwad `Sgwennu Ynys Môn

Mae pum awdur ifanc yn prysur finiogi eu sgiliau creadigol wrth ddilyn cwrs OCN Ysgrifennu Creadigol o dan gynllun Llwybrau i'r Brig, Urdd Gobaith Cymru yng Nghlwb Ieuenctid Llangefni.
O'r gynghanedd i twitterature, byddant yn trin a thrafod arddulliau traddodiadol a chyfoes, gan ddatblygu eu gallu i ysgrifennu'n greadigol mewn sawl maes.

Yn y sesiynau diweddaraf, aethpwyd i ymweld â dau safle hanesyddol bwysig ar Ynys Môn; Din Llugwy a Llys Rhosyr, cyn bwrw ati i ysgrifennu darnau creadigol ar y lleoliadau.

Os ydych ym mlwyddyn 9-11, yn byw ym Môn, ac awydd bod yn rhan o’r cynllun cyffroes hwn, bydd modd i chi wneud hynny ddechrau Chwefror. Cysylltwch â branwenhaf@urdd.org am ragor o wybodaeth.